Canser gwraig Wil Tân yn rhoi ‘persbectif gwahanol ar fywyd’ iddo
Mae'r canwr gwlad o Ynys Môn, Wil Tân wedi dweud fod diagnosis canser ei wraig wedi “rhoi persbectif gwahanol ar fywyd” iddo.
Roedd diagnosis canser y fron Ceri (ei wraig) yn “hollol annisgwyl, sy’n dy daflu di”.
“Mae salwch Ceri di cael effaith, nid yn unig ar Ceri ond effaith ar y plant hefyd a finna wrth gwrs," meddai.
Mewn ffilm arbennig, Y Crwydryn, sydd yn cael ei darlledu ar S4C ar Ddydd San Steffan mae Wil Tân yn mynd ar bererindod i ddarganfod be ydy canu gwlad.
Mae’n cyfarfod a chyd gerddorion ac yn trafod themâu mawr bywyd fel cariad, colled a thor-calon. Themâu, meddai, sydd i’w gweld mewn caneuon canu gwlad.
Erbyn hyn mae Wil Tân, fel y mae yn cael ei adnabod, yn teimlo ei fod yn “fwy qualified i ganu am y pethau yma rŵan”.
Daw hynny meddai am fod amser wedi pasio a’i fod wedi eu profi nhw ei hun.
“Mae’n ffrindiau i gyd efo bob math o ryw man salwch arnyn nhw," meddai.
"Mae’n ffrind gora i yn Iwerddon, Pete O’Feheney mae o wedi darganfod bod ganddo fo ryw gyflwr sydd ddim yn mynd i roi lawer o oes iddo fo.”
Hiraeth yw un o’r pynciau sydd i’w clywed yn lleisiau a geiriau canu gwlad. Mae’r canwr a’r cyflwynydd John Jones o’r ddeuawd John ac Alun yn dweud bod y Cymry yn fwy hiraethus na chenhedloedd eraill.
“Dwi’n meddwl bod ni’r Cymry yn dilyn mwy ar yr Americanwyr," meddai yn y ffilm.
"Maen nhw yr un fath, yn hiraethu. Mae ganddyn nhw sawl cân am hiraeth. Dwi’n meddwl bod ni a nhw reit debyg a’r Gwyddelod."
Mae Wil Tân yn gwybod ei fod yn heneiddio ac yn “teimlo fatha hen ddyn bron iawn”.
“Dydy merched ddim yn sbïo arna chdi ddim mwy nachdi," meddai.
"Pan oeddach chdi yn ifanc oeddach chdi yn sylwi bod merched yn sbïo arna chdi yn dy ugeiniau a ballu. Dydy hynna ddim yn digwydd dim mwy.
"Ti’n fwy anweladwy. Ti’n invisable jest iawn dwyt.”
Roedd Wil Tân yn 38 oed yn cyfarfod Ceri ac mae o’n meddwl amdani fel ei ‘gariad’ er eu bod nhw wedi bod yn briod ers blynyddoedd.
“Be fysa ni yn neud hebddyn nhw merched? Dy ddofi di ychydig bach, os oeddach chdi angen dy ddofi.”
Mae rhai o’r caneuon canu gwlad gorau yn rhai sydd yn trafod tor-calon meddai.
“Mae o yn rhyfadd fel da ni weithiau yn ysu am y tor-calon yn y caneuon canu gwlad yna fel hiraeth," meddai.
"Da ni isio clywad y tor-calon yn ystyr y gân ac yn y lleisiau a ballu.”
Yn aml, meddai, mae canu am y teimladau yma yn haws i ddynion na chynnal sgyrsiau.
“Dio’m yn golygu na chdi ydy o nadi jest iawn," meddai.
Wrth i’w lais fynd yn wannach mae’n dweud y bydd ei blant yn dilyn ôl ei draed.
“Bellach mae’r plant di tyfu, mae’n llais i’n gwaelu," meddai.
"Ond maen nhw medru cymryd drosodd oddi wrtha i pan mae’r llais yn darfod. Diolch byth am hynny.
"A ma nhw yn hoff o ganu gwlad hefyd.”
Bydd modd gwylio Y Crwydryn Dydd Gwener 26 Rhagfyr am 20.15 neu ar S4C Clic ac BBC iPlayer