Nofwyr yn dathlu 60 mlynedd o redeg i'r môr ym Mhorthcawl

Llun o 2024

Mae cannoedd o nofwyr dewr wedi camu i’r môr ar ddydd Nadolig unwaith eto eleni ym Mhorthcawl.

Fe ddechreuwyd y traddodiad o nofio ar fore’r Nadolig ym Mhorthcawl 60 mlynedd yn ôl, gyda'r digwyddiad bellach yn dod â nofwyr, gwylwyr a gwrifoddolwyr ynghyd.

Fe ddechreuodd y cyfan ar draeth Porthcawl am 10:30yb gyda’r nofwyr yn rhedeg i'r môr am 11:45yb.

I nodi’r 60 mlwyddyant, roedd y nofwyr yn gwisgo pob math o wisgoedd sydd yn cynrychioli’r 60au gyda thema’r wisg ffansi, ‘Y Chwedegau Chwyrlïol’.

Image
nofio porthcawl

Mae’r digwyddiad wedi datblygu o fod yn ‘ddigwyddiad lleol bach i fod yn ddigwyddiad cymunedol mawr’ yn ôl y trefnwyr.

Roedd y digwyddiad eleni eto yn codi arian tuag at elusennau 2wish ac Elusen Ganser Syr Gareth Edwards.

‘Dod â’r gymuned ynghyd’

Yn ôl Owen Richards o’r pwyllgor sydd yn trefnu’r digwyddiad, “mae cyrraedd 60 mlynedd yn garreg filltir enfawr i’r nofio. 

"Mae’r olygfa a’r gwaith o godi arian yn ei wneud yn arbennig, ond rwy’n credu hefyd fod y ffaith bod y nofio’n dod â’r gymuned ynghyd ar ddiwrnod pan all pobl deimlo’n arbennig o unig yn beth gwych.”

Image
nofio porthcawl

Llun: Mei Lewis drwy Porthcawl Christmas Swim

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.