Colledion cwmni cyfryngau Orchard yn £1.7m cyn mynd i'r wal
Roedd gan gwmni cyfryngau a digwyddiadau o Gaerdydd ddyledion o £1.4 miliwn, cyn iddyn nhw fynd i ddwylo’r gweinyddwyr fis Medi, gydag arian yn ddyledus i gwmnïau a sefydliadau blaenllaw.
£1.7 miliwn oedd cyfanswm colledion cwmni Orchard Media and Events Group Ltd.
Dywedodd y cwmni mewn datganiad ar y pryd iddyn nhw "wneud y penderfyniad anodd i roi’r gorau i fasnachu" oherwydd "heriau yn sgil marchnad sy’n crebachu a chystadleuaeth gynyddol."
Collodd tua 70 o staff eu gwaith.
Ymhlith cleientiaid y cwmni, roedd Llywodraeth Cymru, Netflix, Cymdeithas Adeiladu'r Principality ac Aston Martin.
Roedd Orchard Media wedi cynhyrchu rhaglenni teledu ar gyfer S4C, BBC a Channel 4, a nhw gynhyrchodd ddarllediadau S4C o ddigwyddiad Tafwyl yng Nghastell Caerdydd yn haf 2026, rai misoedd cyn mynd i'r wal.
Mewn datganiad fis Medi, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol fod rhai trydydd partïon heb gael eu talu gan Orchard am waith a oedd wedi ei gomisiynu gan y llywodraeth, a'u bod yn barod i "gynnig cefnogaeth" wedi i'r cwmni fynd i'r wal.
'Heriau'
Cafodd Orchard Media ei sefydlu yn 2010. Wrth gyhoeddi eu bod yn galw'r gweinyddwr, nododd y cwmni iddyn nhw wynebu heriau sylweddol.
"Arweiniodd hyn at sefyllfa lle nad oedd maint ac ansawdd ein gwaith bellach yn gynaliadwy" meddai'r datganiad.
“Drwy gydol y cyfnod hwn, parhaodd ein tîm ymroddedig ac arbenigol o staff i sicrhau canlyniadau rhagorol i’n cleientiaid."
Ychwanegodd y cwmni: “Mae gennym hanes rhagorol fel cwmni ers inni gael ein sefydlu fel Orchard yn 2010.
“Tyfodd y cwmni’n sylweddol, gan ddatblygu ein gwasanaethau ac ymateb i anghenion ein cleientiaid, a daeth yn gwmni sy’n eiddo i’w weithwyr yn 2024.
“Hoffem ddiolch i’n cleientiaid, ein cyflenwyr a’n partneriaid am eu cefnogaeth.”
Yn 2024 fe sefydlodd y cwmni ymddiriedolaeth perchnogaeth gweithwyr (EOT) gan drosglwyddo perchnogaeth i weithwyr y cwmni.
Dywedodd y cwmni bryd hynny fod ganddynt drosiant o £15 miliwn y flwyddyn.