'Mynd yn ôl at wir ystyr y Nadolig' yn Nyffryn Nantlle

'Mynd yn ôl at wir ystyr y Nadolig' yn Nyffryn Nantlle

Mae addolwyr yn ardal Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd wedi penderfynu "mynd yn ôl at wir ystyr y Nadolig" eleni, wrth ddod at ei gilydd i ddathlu genedigaeth Iesu Grist, a hynny mewn stabl ar fferm leol dan olau cannwyll.

Roedd arweinwyr ffydd lleol sy'n gweithio o dan faner 'Gobaith Nantlle' wedi penderfynu cynnal y dathliad, nid mewn adeilad modern a chlud yng nghanol y pentref, ond yng nghanol y "baw a'r llaca", gan geisio cofio'r union amodau pan ddaeth Crist i'r byd.

Mae Gobaith Nantlle yn fenter ar y cyd rhwng capeli ym Menygroes a Llanllyfni ond yn cyd-weithio gyda unrhyw gapel, eglwys neu fudiad Cristnogol sy'n gweithio yn ardal Dyffryn Nantlle.

Image
Beudu Nadolig

Fe ddaeth y syniad i gynnal y digwyddiad, wedi i aelod yn y capel lleol, Gwilym Roberts, gofio am brofiad pan oedd wedi gyrru lori o nwyddau i blant yn Bosnia a Herzegovina yn ystod y 90au pan oedd y wlad dan orthrwm rhyfel.

"Roedda ni wedi gyrru'r holl ffordd i Kosovo, ac ar ôl cyrraedd pen ein taith mewn pentref ar gyrion Mostar," meddai Gwilym Roberts,

"Roedd popeth wedi ei chwalu yno gan fyddin Serbia, a nifer fawr o'r trigolion wedi eu hanafu a rhai wedi eu lladd.

"Doedd dim golwg o fawr neb o gwmpas, ond fe glywson ni sŵn canu yn dod o'r pellter, ac o ddilyn y sŵn fe ddaethom ni ar draws rhai o'r trigolion wedi dod at eu gilydd mewn beudu fel yr un yma i ganu carolau.

"Mae'n rhaid i ni gofio yn y rhan yma o'r byd, yn bell o sŵn gynau a bomiau, fod 'na bobl fach sydd ddim hanner mor ffodus â ni. A dwi'n gobeithio fod cynnal y gwasanaeth yma yn help i ni stopio am funud a meddwl am bobl sydd ddim mewn sefyllfaoedd mor lwcus â ni."

Image
Stabal Nadolig

Roedd y trefnwyr wedi estyn croeso i'r gymuned gyfan yn Nyffryn Nantlle, ac yn "falch iawn" fod y stabal yn llawn ar gyfer y digwyddiad, gydag addolwyr yn cael cyfle i gyd-ganu carolau, gyda chyfle am sgwrs dros 'fins pei' a ddiod poeth i ddilyn.

Un o'r trefnwyr oedd gweinidog yr ofalaeth, Y Parchedig Ddr. Rhys Llwyd, ac fe ddywedodd ei fod yn "grêt cael dod â’r hanes yn fyw i deuluoedd a plant yma ym Mhenygroes".

"Ma’ llawer un yn deud fod y Nadolig wedi cael ei sanateiddio rywfaint, a ‘dan ni’n gallu neud o’n ryw ŵyl ‘chydig bach yn rhy barchus yn y capel a’r eglwys weithie," meddai.

"Felly mae’n grêt bo’ ni ‘nôl yng nghanol y llaid a’r llaca fel petai, yn dod â’r newyddion yma bod Duw wedi dod i ganol byd a pobl digon cyffredin fel ni."

Image
Beudu Nadolig

Ychwanegodd un arall o'r trefnwyr, Gwilym Siôn: "Dan ni ’di cael noson ofnadwy o braf yma heno, a canu da mewn pedwar llais, atmosphere cynnas, neis a’r gymuned yn dod at ei gilydd a dyna oeddan ni isio, cariad y Nadolig."

Hefyd ar y noson roedd dyn sy'n wreiddiol o Texas yn America, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nyffryn Nantlle, Trey McCain, yn arwain y gân ac yn cyfeilio i'r carolau ar ei gitar. 

Fe gafodd adnodau a darlleniadau hefyd eu cyflwyno gan y Parchedig Hannah Smethurst sy'n weithiwr cenhadaeth yn yr ardal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.