Arweinwyr gwleidyddol Cymru yn diolch i’r rheini a fydd yn gweithio dros y Nadolig

Eluned Morgan

Mae rhai o arweinwyr gwleidyddol Cymru wedi diolch i’r rheini a fydd yn gweithio dros gyfnod yr ŵyl yn eu negeseuon Nadolig eleni.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei bod yn “diolch o galon” i’r rheini a fydd yn cadw gwasanaethau hanfodol i fynd ar y diwrnod mawr.

“O'n gwasanaethau brys a staff NHS, i'n timau gofal cymdeithasol, gweithwyr y trenau a’r bysus a phawb sy'n cadw gwasanaethau hanfodol i redeg,” meddai.

“Diolch am bopeth chi'n ei wneud i'n cadw'n ddiogel a chadw Cymru i symud ar yr adeg hon o'r flwyddyn. 

“Ry’n ni wir yn gwerthfawrogi eich ymroddiad a'ch gwasanaeth. 

“Ag i'r miloedd o wirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser mor hael - yn cefnogi banciau bwyd, gofalu am gymdogion, trefnu digwyddiadau cymunedol, neu gynnig caredigrwydd lle mae ei angen fwyaf - ry'ch chi'n ymgorffori gwir ysbryd y Nadolig. 

“Chi yw’r bobl sy’n cryfhau ein cymunedau ac yn ein hatgoffa beth mae Cymru'n ei wneud orau - sef gofalu am ein gilydd.”

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, yn ei neges Nadolig ei fod yn gyfnod prysurach na’r arfer i nifer o weithwyr mewn swyddi hanfodol.

“Y Nadolig hwn, rwyf am dalu teyrnged i hyrwyddwyr cymunedol ledled Cymru, gan gynnwys sefydliadau elusennol, grwpiau ffydd, hosbisau a sefydliadau cymunedol am eu gwaith drwy gydol y flwyddyn, ac yn enwedig yn ystod tymor yr ŵyl,” meddai.

“I’r nifer sy’n gweithio mewn Lluoedd Arfog gwych, ein GIG, gwasanaethau brys, a’r rhai yn y diwydiannau lletygarwch, arlwyo a manwerthu, mae’r Nadolig yn aml yr un mor brysur, neu hyd yn oed yn brysurach, nag adegau eraill o’r flwyddyn. 

“Felly rydym yn meddwl amdanynt, ac yn diolch iddynt, wrth i ni sy’n gallu cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith wneud hynny."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn ““amser i ymlacio yng nghwmni ffrindiau a theulu”.

“Ond rhaid inni hefyd gydnabod y gall fod yn gyfnod unig o’r flwyddyn i rai tra i eraill ei fod yn golygu parhau i weithio’n ddiflino ar reng flaen ein gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.

Image
Rhun ap Iorwerth
Rhun ap Iorwerth

‘Anodd’

Roedd arweinwyr y prif bleidiau hefyd yn awyddus i bwysleisio nad oedd y Nadolig yn adeg o ddathlu i bawb.

“Rydym hefyd yn gwybod bod y Nadolig yn gallu bod yn amser unig neu anodd i rai,” meddai Eluned Morgan.

“Bydd llawer ohonom yn teimlo hiraeth am anwyliaid. 

“Os gallwch chi wneud un peth y tymor Nadoligaidd hwn, beth am gysylltu gyda rhywun - gall galwad ffôn, ymweliad, neu ychydig o eiriau caredig wneud y byd o wahaniaeth i rywun a allai fod yn cael amser anodd.”

Dywedodd Darren Millar bod angen meddwl am y rhai “sy’n galaru ac ar eu pen eu hunain y Nadolig hwn”. 

“Gall Nadolig cyntaf heb anwyliaid fod yn hynod boenus ac anodd,” meddai.

“Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i estyn allan at unrhyw ffrindiau neu gymdogion sydd yn y sefyllfa hon, yn ogystal â’r rhai a allai fod yn unig.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod angen cofio'r rheini sydd yn 2025 wedi “parhau i wynebu gormes ac erledigaeth”.

“Wrth i ryfeloedd barhau ar draws y byd, cawn ein hatgoffa o’n dyletswydd gyffredin i eiriol dros heddwch,” meddai.

Image
Darren Millar
Darren Millar

‘Gobaith’

Fe ychwanegodd Darren Millar fod y Nadolig yn gyfle i gofio bod “ein traddodiadau Cristnogol yn bwysig i Gymru”

“Os ydych yn Gristion ai peidio, rydym i gyd yn cydnabod ac yn ddiolchgar am y gwerthoedd Cristnogol sydd wedi llunio’r Gymru fodern yr ydyn ni’n ei alw yn gartref heddiw,” meddai.

“Rwyf am ddymuno Nadolig llawen iawn i chi a’ch anwyliaid. Boed i Dywysog Tangnefedd, Iesu, fod gyda chi i gyd - Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.”

Roedd Rhun ap Iorwerth hefyd yn awyddus i edrych ymlaen at 2026, blwyddyn etholiadau i’r Senedd ym mis Mai.

“Yn wleidyddol, 2025 fu’r flwyddyn y cefnodd Lafur ar Gymru,” meddai.

“Mae Keir Starmer wedi tanseilio datganoli ac mae Eluned Morgan wedi bod yn rhy wan i sefyll yn ei erbyn.

“Yn y cyfamser, mae grymoedd eraill mewn gwleidyddiaeth yn ceisio ein rhannu a’n twyllo ar bob tro.

“Ond fel y profodd canlyniad syfrdanol mis Hydref yng Nghaerffili, mae gobaith yn trechu casineb ac mae gweledigaeth yn drech na rhaniad bob tro.

“Wrth i 2026 agosáu, blwyddyn arwyddocaol yng ngwleidyddiaeth Cymru, mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda chi a chyflwyno’r arweinyddiaeth newydd y mae ei hangen yn daer ar Gymru, ac i greu cenedl decach a mwy ffyniannus i bawb.

“Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i chi gyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.