Graffiti gwrth-Semitiaidd yn gwadu’r Holocost wedi ei ddarganfod yn Auschwitz

Mae graffiti gwrth-Semitiaidd a sloganau sy’n gwadu’r Holocost wedi ei ddarganfod yn Auschwitz.
Fe gafodd y fandaliaeth ei ddarganfod mewn naw adeilad yn yr hen wersyll crynhoi ddydd Mawrth, yn ôl y corff sy’n rhedeg y safle.
Ar safle Auschwitz II-Birkenau y cafodd y fandaliaeth ei ddarganfod, sef y mwyaf o’r 40 camp oedd yn rhan o’r safle.
Yno, fe gafodd 90% o ddioddefwyr y gwersylloedd crynhoi'r Ail Ryfel Byd eu lladd – cyfanswm o oddeutu miliwn o bobl, y rhan fwyaf yn Iddewon.
Darllenwch y stori’n llawn yma.