Chwyddiant yn gostwng i'w lefel isaf ers Mawrth 2025
Roedd chwyddiant wedi disgyn i 3% fis Ionawr, ar ôl gostyngiad i 3.4% fis Rhagfyr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Dyma'r lefel isaf ers Mawrth 2025, a'r dyfalu ydy y bydd hynny'n hwb i'r gobeithion bod modd gostwng cyfraddau llog.
Mae rhai economegwyr o'r farn y gallai cyfraddau llog ostwng fis nesaf.
3.75% yw'r raddfa ar hyn o bryd gyda gobeithion y gallai ostwng i 3.5%
Ond mae prif economegydd Banc Lloegr Huw Pill o'r farn bod y cyfraddau fymryn yn rhy isel, gan awgrymu na fydd ymhlith y rhai a fydd yn pleidleisio dros ostyngiad pellach fis nesaf.
Roedd Mr Pill ymhlith y pump allan o naw aelod o bwyllgor ariannol y banc a bleidleisiodd dros gadw'r raddfa ar 3.75% yn gynharach y mis hwn.
Mae Bank Lloegr yn darogan y bydd chwyddiant wedi disgyn i'r targed o 2% erbyn canol y flwyddyn, wrth i fesurau a gafodd eu cyhoeddi gan y Canghellor yng ngyllideb yr hydref gynorthwyo'r dasg o arafu chwyddiant, yn enwedig y pecyn cymorth i ostwng biliau ynni o fis Ebrill.
Wrth ymateb i'r ystadegau diweddaraf, dywedodd y Canghellor Rachel Reeves mai gostwng costau byw yw ei "phrif flaenoriaeth."
"Gyda diolch i'n penderfnyniadau adeg y gyllideb, mae chwyddiant yn gostwng, gyda £150 o ostynigad mewn biliau ynni, tocynnau trên wedi rhewi am y tro cyntaf ers 30 mlynedd a ffioedd presgripsiwn wedi rhewi eto (yn Lloegr.)"
"Ein cynllun economaidd ni yw'r un cywir," meddai.