Keir Starmer yn addo 'buddsoddiad hirdymor' gyda £14 bn ar gyfer rheilffyrdd Cymru

Trenau

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi cymeradwyo nifer o brosiectau rheilffyrdd yng Nghymru gwerth biliynau o bunnau, sydd â'r nod o foderneiddio a gwella'r gwasanaeth trenau. 

Ddydd Mercher, mae disgwyl i Syr Keir Starmer deithio i Gymru i ddatgan ei gefnogaeth yn ffurfiol i welliannau sydd wedi eu hamlinellu gan Trafnidiaeth Cymru. 

Yn ôl Llywodraeth y Du, fe fydd y cynlluniau yn cefnogi hyd at 12,000 o swyddi ar draws y wlad. 

£14 biliwn yw'r amcanbris ar gyfer y gwaith, er mae'n aneglur faint yn union o gyllid ychwanegol a fydd yn cael ei ddarparu yn rhan o "ymrwymiad hirdymor" Llywodraeth y DU i gefnogi'r prosiectau hyn.

A dyw hi ddim yn glir pryd y bydd yr arian ar gael na thros pa gyfnod. 

Roedd Llywodraeth San Steffan eisoes wedi cadarnhau fis Mehefin diwethaf y byddai arian ar gyfer saith gorsaf newydd yn nwyrain Cymru, gyda'r canolbwynt ar hwyluso'r daith i Gaerdydd a Chasnewydd. 

Dywedodd Syr Keir Starmer: “Ers yn rhy hir yn y gorffennol, dyw Cymru ddim wedi cael ei thrin yn deg gan Lywodraeth San Steffan sy'n anfodlon mynd y cam pellaf ac adeiladu'r dyfodol y maen nhw'n ei haeddu. 

“Mae'r Llywodraeth hon yn newid y drefn honno, gyda saith gorsaf newydd, miloedd o swyddi ac ymrwymiad i adeiladu rhwydwaith reilffordd ar gyfer dyfodol Cymru .

“Buddsoddiad yw hwn ar gyfer yr hirdymor, a chyflwyno newidiadau y bydd cymunedau yn eu teimlo.”

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dynodi 43 prosiect sy'n flaenoriaeth iddyn nhw.  

'Gweledigaeth'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan bod hyn yn cynnwys prosiectau “ar hyd a lled Cymru.” 

“Ry'n ni'n croesawu cefnogaeth Llywodraeth y DU yn gynnes ar gyfer y cynlluniau hyn, ac am eu hymrwymiad, wedi tanwario'r llywodraeth flaenorol ar y rheilffyrdd.”

“Dyw newidiadau ar y raddfa hon ddim yn digwydd dros nos, ond mae nhw yn digwydd pan fo gweledigaeth, agwedd benderfynol a chydweithio.”

Ddydd Mercher, mae disgwyl i Syr Keir Starmer gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth y DU i gydweithio â Llywodraeth Cymru i "gyflawni hyn cyn gynted â phosib".

Gan ddefnyddio'r bron i hanner biliwn o bunnoedd a gafodd ei addo yn yr Adolygiad Gwariant fis Mehefin diwethaf, bydd saith gorsaf newydd yn cael eu hadeiladu ym: 

  • Magwyr a Gwndy
  • Llanwern
  • Dwyrain Caerdydd
  • Gorllewin Casnewydd
  • Somerton ger Casnewydd
  • Parcffordd Caerdydd
  • Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy

Fe fydd y gorsafoedd newydd yn golygu y bydd hi'n haws i weithwyr deithio i Gaerdydd a Chasnewydd yn ôl Llywodraeth San Steffan. 

Fe fydd gorsaf newydd Parcffordd Caerdydd yn helpu i wasanaethu tua 800,000 o deithwyr yn flynyddol yn ôl Llywodraeth y DU, yn ogystal â 6,000 o swyddi.

Fe fydd gorsaf Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn y gogledd yn rhan o'r cynlluniau i wella'r rhwydwaith rhwng Wrecsam a Lerpwl.

'Anwybyddu'r gorllewin' 

Wrth ymateb, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:  "Rydym wrth gwrs yn croesawu unrhyw fuddsoddiad i'n rhwydwaith rheilffyrdd, ond mae rhannau helaeth o orllewin a chefn gwlad Cymru yn parhau i gael eu hanwybyddu, gyda gwasanaethau araf, anaml a chysylltedd gwael rhwng y gogledd a’r de yn parhau i ddal cymunedau yn ôl."

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Drafnidiaeth a Seilwaith, Sam Rowlands AS: "Er ein bod ni'n croesawu buddsoddiad yn y rheilffyrdd ar draws Cymru, mae cyllid rheilffyrdd wedi’i dorri mwy na hanner o dan Lafur o’i gymharu â’r hyn a gafodd ei gyflawni gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU.

"Ni all Llafur ailysgrifennu hanes - mae'r Ceidwadwyr wedi cyflawni yn gyson dros Gymru, ac mae'r cyhoeddiad hwn yn methu â chydnabod y cyllid rheilffyrdd a gafodd ei ddarparu gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU."

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd yng Nghymru: "Mae pobl wedi cael digon o Lywodraeth y DU yn amddifadu Cymru o fuddsoddiad mewn rheilffyrdd, ac yna’n troelli cyfran fach o’r hyn sy’n ddyledus i ni fel rhywbeth arloesol.

"Dylai Llywodraeth Cymru fod yn penderfynu sut y mae'r arian yma yn cael ei wario fel rhan o ddatganoli seilwaith rheilffyrdd yn llawn. Mae angen buddsoddiad ledled Cymru gyfan, nid dim ond y de-ddwyrain – gan ddangos pam mae angen y swm llawn sy'n ddyledus ar gyfer HS2."

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK yng Nghymru: "Efallai ei fod wedi diflannu o feddyliau Llafur eu bod nhw wedi bod mewn pŵer yng Nghymru am dros chwarter canrif. 

"Yn ystod y cyfnod yna, maen nhw wedi tan-ariannu ein rhwydwaith trafnidiaeth yn gywilyddus, ac wedi methu â chyflawni prosiectau allweddol fel Ffordd Liniaru’r M4."

Dywedodd yr AS David Chadwick ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Nid oes unrhyw gyllid newydd wedi’i ymrwymo heddiw mewn gwirionedd; gyda’r Llywodraeth yn ailgynhesu hen gyhoeddiadau’n daer i geisio ennill pleidleisiau cyn etholiadau’r Senedd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.