Sgandal Epstein: Asesu hediadau Maes Awyr Stansted

Jeffrey Epstein

Mae'r heddlu'n asesu gwybodaeth am hediadau preifat i Faes Awyr Stansted ac oddi yno, yn sgil cyhoeddi miliynau o ddogfennau yn ymwneud â'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein. 

Daw'r datblygiad wedi i'r cyn-brif weinidog Gordon Brown honni bod y dogfennau yn dangos yn eglur sut y llwyddodd Epstein i ddefnyddio'r maes awyr yn Essex er mwyn "hedfan merched o Latfia, Lithwania a Rwsia" yno   

Yn ôl Mr Brown, hedfanodd aywren breifat Epstein 90 o weithiau i mewn i feysydd awyr yn y Deyrnas Unedig, gyda 15 hediad ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o droseddau rhyw yn erbyn plentyn yn 2008. 

Yn ôl y cyn-brif weinidog, roedd Epstein wedi “brolio” pa mor rhad oedd prisiau glanio yn Stansted o gymharu â Pharis. 

Mae Mr Brown yn honni mai ym Maes Awyr Stansted Airport y byddai "menywod yn cael eu trosglwyddo o un awyren Epstein i un arall," gan ychwanegu na fyddai menywod a oedd yn cyrraedd ar hediadau preifat angen fisa Prydeinig.  

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Essex: "Rydym yn asesu gwybodaeth sydd wedi dod i'r amlwg mewn perthynas â hediadau preifat i Faes Awyr Stansted ac oddi yno, ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi dogfennau Epstein."

Yn ôl llefarydd ar ran Maes Awyr Stansted, mae'r holl archwiliadau ar gyfer teithwyr ar hediadau preifat yn cael eu cynnal yn uniongyrchol gan Lu'r Ffiniau.   

"Maen nhw'n defnyddio terfynfeydd annibynnol nad sydd o dan reolaeth Maes Awyr Stansted, a dyw cwsmeriaid preifat ddim yn teithio drwy'r brif derfynfa ar ôl glanio,” meddai'r llefarydd. 

Yn gynharach fis Chwefror, cadarnhaodd yr heddlu eu bod yn asesu honiadau i'r cyn-dywysog, Andrew Mountbatten-Windsor rannu dogfennau cyfrinachol yn sgil ei rôl fel cennad masnach y Deyrnas Unedig gyda Jeffrey Epstein.

Yn y gorffennol, mae Andrew wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le mewn cyswllt â'i berthynas ag Epstein, ond dyw e ddim wedi ymateb yn uniongyrchol i'r honiadau diweddaraf.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.