Newyddion S4C

Boris Johnson am feirniadu ei ragflaenwyr Torïaidd am ‘ddiffyg hyder’

Sky News 06/10/2021
Boris Johnson

Fe fydd Boris Johnson yn cloi cynhadledd ei blaid ddydd Mercher drwy gyhuddo ei ragflaenwyr Torïaidd o fod â diffyg hyder i fynd i’r afael â phroblemau mawr.

Yn ôl adroddiadau, fe fydd y Prif Weinidog yn addo newid cyfeiriad “hir-ddisgwyliedig”, gyda chyflogau uwch i bawb ac yn addo dod â’r gwahaniaeth rhwng y gogledd a’r de i ben.

Dywed Sky News y bydd yr araith yn dathlu llwyddiant y blaid bron i ddwy flynedd ers ei lwyddiant yn etholiad cyffredinol 2019.

Serch hynny, bydd ei ymosodiad ar gyn-brifweinidogion Torïaidd, fel Sir John Major, David Cameron a Theresa May, yn cael ei weld fel rhywbeth “rhagweithiol”.

Bydd y prif weinidog yn dweud: “Rydym yn delio gyda’r materion sylfaenol mwyaf ein heconomi a'n cymdeithas.

"Y problemau nad oes yr un llywodraeth wedi cael yr hyder i fynd i'r afael â nhw o'r blaen.

“Rydym yn cychwyn nawr ar y newid cyfeiriad sydd wedi bod yn hir-ddisgwyliedig o fewn economi’r DU.

"Nid ydym yn mynd yn ôl at yr un hen fodel toredig gyda chyflogau isel, twf isel, sgiliau isel a chynhyrchedd isel, y cyfan wedi'i alluogi a'i gynorthwyo gan fewnfudo heb ei reoli."

Fe fydd Mr Johnson yn annerch ei blaid am 11:30 ddydd Mercher yn y gynhadledd ym Manceinion.

Darllewnch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.