Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar brif benawdau'r bore ar ein gwasanaeth ar fore Llun, 27 Medi.
Llywodraeth y DU yn gwahardd deddfau cystadleuaeth i ddelio â phrinder tanwydd
Mae Llywodraeth y DU wedi gwahardd deddfau cystadleuaeth er mwyn helpu'r diwydiant tanwydd i ddarparu gwasanaethau i orsafoedd petrol sydd angen cyflenwadau newydd. Yn ôl Sky News, mae'r llywodraeth hefyd yn ystyried galw am gymorth gan y fyddin er mwyn helpu gyda'r ddarpariaeth.
Angen i'r blaid Lafur ddysgu gwersi gan Llafur Cymru, medd Drakeford
Mae disgwyl i Mark Drakeford ddweud y dylai Llafur rhoi'r gorau i "edrych ar y byd drwy delescop San Steffan" a dilyn esiampl Llafur Cymru yng nghynhadledd y blaid yn ddiweddarach dydd Llun. Yn ôl Nation.Cymru, fe fydd Prif Weinidog Cymru yn cyflwyno araith ar ddatganoli yn y gynhadledd yn Brighton.
Etholiad yr Almaen: Plaid Angela Merkel yn cael ei threchu
Mae'r Democratiaid Sosialaidd wedi ennill etholiad yr Almaen o drwch blewyn, gan ddod a chyfnod plaid Angela Merkel mewn grym i ben wedi 16 o flynyddoedd. Yn ôl Independent, dywedodd y Democratiaid Sosialaidd eu bod nhw wedi derbyn "gorchymyn clir" i ffurfio'r llywodraeth ffederal nesaf, ar ôl iddyn nhw arwain y wlad tro diwethaf yn 2005.
Ymgyrch i ymestyn y tymor twrisitiaeth yng Nghymru
Mae dydd Llun yn nodi Diwrnod Twristiaeth y Byd, ac i ddathlu’r diwrnod mae Llywodraeth Cymru yn anelu i ymestyn y tymor twristiaeth “er lles Cymru” gan groesawu ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Bydd ‘Croeso Cymru’ yn lansio ymgyrch newydd ar gyfer yr hydref a'r gaeaf, gyda’r nod i ysbrydoli ymweliadau yn ystod yr hydref, y gaeaf ac ar gyfer 2022.
Covid-19 wedi 'dinistro blynyddoedd' o gynnydd mewn disgwyliad oes
Mae gwaith ymchwil newydd gan Ganolfan Leverhulme yn Rhydychen wedi darganfod fod y pandemig coronafeirws wedi achosi'r gostyngiad mwyaf i ddisgwyliad oes - sef hyd bywyd unigolyn yn ystadegol, ers yr Ail Ryfel Byd. Yn ôl The Guardian, roedd y data yn cynnwys 29 o wledydd, gan gynnwys rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop, UDA a Chile.