Covid-19 wedi 'dinistro blynyddoedd' o gynnydd mewn disgwyliad oes
Mae gwaith ymchwil newydd gan Ganolfan Leverhulme yn Rhydychen wedi darganfod fod y pandemig coronafeirws wedi achosi'r gostyngiad mwyaf i ddisgwyliad oes - sef hyd bywyd unigolyn yn ystadegol, ers yr Ail Ryfel Byd.
Yn ôl The Guardian, roedd y data yn cynnwys 29 o wledydd, gan gynnwys rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop, UDA a Chile.
Roedd y gostyngiadau mwyaf mewn disgwyliad oes ymhlith dynion o'r UDA, gyda dirywiad o 2.2 o flynyddoedd i gymharu â'r lefelau yn 2019, ac yna ymhlith dynion o Lithiwania gyda gostyngiad o 1.7 o flynyddoedd.
Mae'r gostyngiad mewn disgwyliad oes yn fwy na'r hyn gofnodwyd yn ystod cyfnod diddymu'r bloc dwyreiniol wedi tranc Comiwynddiaeth medd y gwaith ymchwil.
Darllenwch y stori'n llawn yma.