Llywodraeth y DU yn gwahardd deddfau cystadleuaeth i ddelio â phrinder tanwydd
Mae Llywodraeth y DU wedi gwahardd deddfau cystadleuaeth er mwyn helpu'r diwydiant tanwydd i ddarparu gwasanaethau i orsafoedd petrol sydd angen cyflenwadau newydd.
Yn ogystal, mae'r llywodraeth hefyd yn ystyried galw am gymorth gan y fyddin er mwyn helpu gyda'r ddarpariaeth.
Yn ôl Sky News, roedd Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Kwasi Kwarteng, wedi cwrdd â phrif weithredwyr y diwydiant ddydd Sul, er mwyn dod o hyd i ateb i'r diffyg cyflenwad tanwydd sydd wedi arwain at rai pobl i brynu petrol mewn panig.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Kwarteng: "Mae gennym gynlluniau hir-dymor posib ar waith i helpu'r diwydiant fel bod cyflenwadau tanwydd yn cael eu darparu os bydd aflonyddwch difrifol.
"Mae 'na ddigon o danwydd ond rydym yn ymwybodol bod rhai problemau wedi datblygu gyda'r broses cyflenwi.
"Byddwn yn sicrhau gall y diwydiant rannu gwybodaeth hanfodol a chydweithio'n fwy effeithiol i sicrhau nad yw aflonyddwch yn digwydd."
Darllenwch y stori'n llawn yma.