Croesawu deddf newydd i warchod anifeiliaid fferm rhag ymosodiad gan gŵn
Rhybudd: Mae'r erthygl yma'n cynnwys lluniau all beri gofid.
Mae deddf newydd sy'n rhoi mwy o bwerau i heddluoedd ymchwilio i ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid fferm yn brawf bod y “llywodraeth y DU yn gwrando” yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
Erbyn hyn, mae modd i swyddogion yr heddlu roi dirwyon di-derfyn i berchnogion cŵn sy'n ymosod ar anifeiliaid, cynnal profion DNA a chadw'r ci am gyfnod amhenodol.
Wrth groesawu'r ddeddf, mae Undeb NFU Cymru'n dweud bod ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid fferm yn broblem sydd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd y newidiadau yn lleihau'r straen ariannol ac emosiynol ar amaethwyr pan mae ymosodiadau tebyg yn digwydd.
Yn 2020 mi gollodd Gareth Hughes (prif lun) o fferm Cleifiog ger y Fali ym Môn 22 o ddefaid, ar ôl i gŵn ymosod arnyn nhw.
Rhybudd: Fe allai'r lluniau isod beri gofid i rai.
Mae'n dweud fod y gost ariannol yn fawr ond fod y poen meddwl yn fwy fyth.
"Dwi ofn bob tro mae'r defaid allan", meddai.
"Dwi jest yn disgwyl phone call neu aros tan fydd o'n ôl (y mab) ac allai relaxio bach wedyn".
"Oedd o'n beth ofnadwy i weld [...] yr hogyn nath weld y defaid, on i'n meddwl bod yn rhaid inni roi counselling iddo"
"Oddo'n rili upset".
Er yn amau pwy oedd perchnogion y cŵn, doedd dim modd profi hynny a diffyg pwerau gan yr heddlu yn rhan o'r broblem, meddai.
Poen meddwl
Yn 2023, mi gollodd Medwyn Owen o fferm Tandderwen yn Henryd ger Conwy chwech o ddefaid i ymosodiad gan gi.
Mae o hefyd wedi profi sawl achos tebyg yn y gorffennol gyda chŵn yn hambygio'r stoc.
"Mae'n boen meddwl, yn enwedig pan 'da chi'n clywed bod ci wedi handwyo defaid a bod nhw heb ddarganfod pwy oedd perchen y ci".
"Mae o tu ôl i meddwl chi o hyd...oes na beryg iddo ddod gyda'r nos a neud mwy o ddifrod".
"Ac mewn lle fel mynydd, allwch chi ddim hel y defaid i gyd mewn dros nos".
Yn ôl gymdeithas sy'n cynrychioli ffermwyr defaid mi ddywedodd 87% o rhai a gafodd eu holi eu bod nhw wedi profi ymosodiad tebyg o fewn y flwyddyn ddiwethaf gyda Undeb Amaeth NFU Cymru yn darogan bod y gost i'r gymuned oddeutu £883,000 y flwyddyn yn 2023.
O dan y ddeddf newydd a ddaeth i rym yr wythnos diwethaf, mi fydd gan swyddogion fwy o bwerau i ddelio a chŵn sy'n ymosod a hefyd eu perchnogion.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru sydd ag uned arbenigol sy'n ymchwilio i droseddau cefn gwlad, mae'r newid yn brawf fod y llywodraeth yn deall effaith ymosodiadau.
"Pan da ni'n mynd i'r drws a ddim yn cael [perchennog] yn cydweithio, mae’n golygu allwn i gael ynadon, warrant, mynd mewn a chwilio am y ci", meddai'r Cwnstabl Iwan Owen sy'n swyddog cymunedol gyda'r tîm trosedd cefn gwlad i Heddlu'r Gogledd.
"Mi allwn i gymryd y ci, mynd a fo o 'na a gwneud arbrofion arno"
"Mi allwn i gadw'r ci yna nes fydd yr achos yn mynd i'r llys ac y perchennog fydd yn talu'r bil yna, ac allai'r bil fod yn filoedd", meddai.
Yn ol Llywydd NFU Cymru, Aled Jones mae'n croesawu'r ddeddf newydd.
"'Sa unrhywun sydd di gweld yr anafiadau mae'r anifeiliaid yn ei gael, 'sa nhw'n dychryn".
"Dwi di weld o a dio ddim yn beth neis"
"Mae o mond yn iawn i bobl sylweddoli y gofid mae'n achosi nid yn unig i'r ffermwr ond y costau ariannol sy'n dod yn ei sgil.
Gyda datblygiadau profion DNA, mae'r llu yn cydweithio gyda phrifysgol Lerpwl i roi hynny ar waith.
Wrth gyflwyno'r ddeddf mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud y bydd yn rhoi tawelwch meddwl i'r gymuned amaeth.
Gyda modd rhoi dirwyon di-derfyn {unlimited} dywedodd llefarydd y bydd yn "lleihau y straen ar y gymuned amaeth".