Newidiadau sylweddol i'r cynllun treth etifeddiant wedi misoedd o brotest
Newidiadau sylweddol i'r cynllun treth etifeddiant wedi misoedd o brotest
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi newidiadau sylweddol i gynlluniau ar gyfer treth etifeddiaeth wedi misoedd o brotest gan ffermwyr.
Maen nhw wedi cyhoeddi y bydd trothwy y dreth etifeddiant i ffermwyr yn codi o £1m, i £2.5m.
Fe ddaw hyn yn dilyn cyfres o brotestiadau gan amaethwyr dros y misoedd diwethaf.
Dywedodd y Llywodraeth y byddai hyn yn caniatáu i briod neu bartneriaid sifil drosglwyddo hyd at £5 miliwn mewn asedau amaethyddol neu fusnes cymwys cyn talu treth etifeddiant.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amgylchedd yn San Steffan, Emma Reynolds: “Mae ffermwyr wrth wraidd ein diogelwch bwyd a’n stiwardiaeth amgylcheddol, ac rwy’n benderfynol o weithio gyda nhw i sicrhau dyfodol ffyniannus i ffermio ym Mhrydain.
“Rydym wedi gwrando’n ofalus ar ffermwyr ledled y wlad ac rydym yn gwneud newidiadau heddiw i amddiffyn rhagor o ffermydd teuluol.
“Rydym yn cynyddu’r trothwy unigol o £1m i £2.5m sy’n golygu na fydd cyplau ag ystadau hyd at £5m bellach yn talu unrhyw dreth etifeddiant.
“Mae’n deg bod ystadau mwy yn cyfrannu mwy, tra ein bod yn cefnogi’r ffermydd a’r busnesau sy’n asgwrn cefn cymunedau gwledig Prydain.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn San Steffan, yr Aedlod Seneddol, David Chadwick ei fod yn hynod falch dros ffermwyr o Gymru sydd wedi "brwydro'n ddiflino er mwyn cyflawni hyn."
"Roedd hyn ynghylch tegwch a diogelwch," meddai.
“Er fy mod yn croesawu'r newid hwn, bydd nifer o ffermwyr teuluol Cymreig yn dal i fod mewn sefyllfa anodd, gyda'u hincwm prin yn cyrraedd lefelau isafswm cyflog. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal i gredu y dylai'r dreth annheg hon gael ei dileu yn llwyr a byddwn yn cyflwyno gwelliant yn y flwyddyn newydd er mwyn ceisio cyflawni hynny."
'Anrheg Nadolig'
Roedd yr undebau amaethyddol wedi bod yn protestio yn erbyn y cynllun.
Wrth groesawu’r cyhoeddiad annisgwyl gan Lywodraeth y DU ddydd Mawrth , dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: "Bydd y newyddion heddiw yn anrheg Nadolig i’w groesawu i nifer o ffermwyr ledled Cymru sydd wedi dioddef misoedd o ansicrwydd a phryder yn sgil newidiadau Llywodraeth y DU i’r Dreth Etifeddiant.
"Ar adeg o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd sylweddol i ffermwyr Cymru, mae’r newidiadau yma i’r trothwy treth gan Lywodraeth y DU yn cynrychioli newid oedd wirioneddol ei angen."
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones ei fod eisiau diolch i'r rhai yn y gadwyn gyflenwi a "safodd gyda ni, gan gydnabod y difrod y byddai'r argymhellion gwreiddiol wedi ei achosi, nid yn unig i ffermydd teuluol ond cefn gwlad Cymru."
"Mae'r cyhoedd wedi bod yn wych, gyda 27,000 wedi llofnodi deiseb a gyflwynais i Rif 10 yn gynharach eleni," meddai Mr Jones.
Dywedodd Undeb yr NFU y bydd hyn yn "rhyddhad enfawr i nifer," gan ychwanegu y bydd yn lleihau'r pwysau ar nifer o ffermydd teuluol.
“Rydym yn ddiolchgar fod synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd a bod y llywodraeth wedi gwrando," meddai datganiad ar ran yr undeb.