Carchar i ddyn o Gaerdydd oedd wedi defnyddio pobl ifanc bregus ‘fel caethweision rhyw’

Dafydd Evans

Mae dyn o Gaerdydd wedi ei garcharu am dair blynedd a naw mis ar ôl defnyddio ei fflat moethus yng nghanol y ddinas er mwyn puteinio dynion ifanc.

Dywedodd yr heddlu bod Dafydd Evans, 61, wedi defnyddio pobl ifanc bregus “fel caethweision rhyw” er mwyn gwireddu ei ffantasiâu "afiach" ei hun a gwneud degau o filoedd o bunnoedd.

Fe gafodd y dyn a oedd wedi gweithio ym myd teledu Cymreig ei ddedfrydu i garchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun.

Roedd rheithgor wedi ei gael yn euog o reoli puteindra er elw, bod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant, a chael gafael ar eiddo anghyfreithlon, sef arian.

Roedd Dafydd Evans, oedd yn byw yng nghanol ardal fasnachol Yr Ais yng Nghaerdydd, wedi dod i sylw Heddlu De Cymru ar ôl neges gan ddyn arall o Dwrci.

Roedd hwnnw wedi cysylltu â’r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern i ddweud ei fod wedi cwrdd â dyn ar wefan oedd yn cynnig lle i aros i bobl oedd yn teithio.

Roedd Dafydd Evans wedi dweud wrtho fod ganddo fusnes tylino’r corff yng nghanol Caerdydd, ac roedd wedi rhannu lleoliad drws blaen y bloc o fflatiau yr oedd yn byw ynddi.

Wrth chwilio’r cyfeiriad ar 3 Gorffennaf 2023, daeth yr heddlu o hyd i wely tylino yng nghornel yr ystafell fyw, dillad isaf dynion ifanc, ac eitemau rhywiol gan gynnwys condomau ac ireidiau.

Daeth swyddogion hefyd o hyd i beiriant talu cerdyn o’r fflat. Roedd nifer o ffonau symudol wedi’u gwasgaru ar y gwely, a chafodd pob un ohonynt eu cymryd a’u harchwilio’n fforensig.

Datgelodd swyddogion dystiolaeth helaeth o droseddau ar y dyfeisiau hynny:

• Roedd cyfrifon WhatsApp a oedd yn eiddo i Evans yn cynnwys negeseuon oedd yn ymwneud â cham-drin plant.
• Roedd hefyd yn cynnig cyfathrach rywiol gyda’r dynion ifanc a oedd yn gweithio iddo ac yn barod i deithio i wledydd eraill i gwrdd â chleientiaid.
• Dangosodd ei ddatganiadau banc ei fod o bosibl wedi gwneud cymaint â £40k drwy ei weithredoedd troseddol.

Fe gafodd Dafydd Evans ei ryddhau ar fechnïaeth i ddechrau gydag amodau a oedd yn cynnwys peidio â chael unrhyw un yn ei fflat, ond torrodd yr amodau hynny.

Aeth ar ffo rhag yr heddlu ond cafodd ei arestio mewn gwesty ychydig ddyddiau’n ddiweddarach a’i gadw yn y ddalfa.

Yn dilyn achos llys ddydd Gwener, 20 Rhagfyr, cafwyd Dafydd Evans yn euog o reoli puteindra er mwyn elw, caffael eiddo troseddol – sef arian – a dau gyhuddiad o feddu ar ffotograffau anweddus Categori A a C o blentyn.

Cafodd ei garcharu am 45 mis.

Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Gwnstabl Robyn Allen: “Mae Dafydd Evans yn bedoffilydd craff a wnaeth filoedd o bunnoedd yn rhoi ei fenter fudr ar waith o fflat moethus yng nghanol dinas Caerdydd.

“Manteisiodd ar bobl agored i niwed a’u defnyddio fel caethweision rhyw er ei elw ariannol ei hun ac i fodloni ei ffantasïau afiach a llygredig.

“Rydym wedi rhannu gwybodaeth a ddatgelwyd gennym yn ystod ein hymchwiliad gyda phartneriaid rhyngwladol, gan gynnwys heddluoedd ledled y byd, fel bod unrhyw un sy’n rhan o’i weithgareddau hefyd yn wynebu cael ei arestio, ac i sicrhau bod unrhyw ddioddefwyr eraill yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

“Os oes unrhyw ddioddefwyr eraill allan yna, byddwn yn eu hannog i gysylltu â ni drwy 101 neu ffonio’r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 08000 121 700.”

Fe gafodd Dafydd Evans ei garcharu am dair blynedd yn 2007 am achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus ar ôl gwrthdrawiad gyda beiciwr modur ar groesffordd Dryslwyn ger Llandeilo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.