Perchennog becws Sanclêr yn addo ailagor wedi difrod llifogydd
Perchennog becws Sanclêr yn addo ailagor wedi difrod llifogydd
Mae perchennog becws yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin a gafodd ei daro gan lifogydd nôl ar ddechrau mis Tachwedd wedi addo ailagor yn 2026, er gwaetha'r difrod sylweddol i'r siop.
Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân achub Sheila Phillips, 80 oed, o siop County Stores mewn cwch pan darodd glaw trwm yr ardal ar 4 Tachwedd.
Cafodd offer y becws ei ddifrodi yn llwyr gan y dŵr a lifodd i'r adeilad, ac fe fydd yn rhaid ail osod lloriau a waliau mewnol y busnes yn sgil y difrod.
Cafodd nifer o gartrefi ar y stryd eu difrodi hefyd.
Roedd Sheila Phillips wedi cyd redeg y busnes am 48 o flynyddoedd gyda'i gwr Wyndham, cyn ei farwolaeth fis Medi eleni.
"Ro'n ni yn gweithio dydd a nos i ddechrau achos doedd dim busnes i gael 'ma a gweithio yn galed i buildo'r busnes lan a mae rhywbeth fel hyn yn dod a dodi stop i chi."
Dywedodd Sheila ei bod hi wedi cael ei dihuno yng nghanol y nos gan y gwasanaeth tân oedd yn mynnu ei bod hi'n gorfod gadael mewn cwch:
"Roedd y dŵr lan hyd ein canol ni ac roedd y dŵr yn fochedd. So ni wedi cael dim byd tebyg i 'na erioed. 2005 cawsom ni ychydig bach mewn, ond dim byd tebyg i beth sydd wedi dod mewn tro 'ma."
Mae'r siop wedi gorfod cau ers y llifogydd, a dyw hi ddim wedi bod yn bosibl i bobi bara. Mae'r staff hefyd wedi gorfod aros adref.
"Mae'r lloriau i gyd yn gorfod mynd, y welydd, mae'r pethau oedd 'da ni ma i gyd, y cwbl i gyd wedi cael mynd mas. Ni'n gorfod dechrau o'r newydd ond bydd e'n newydd."
'Ail agor er mwyn Wyndham'
Er gwaetha'r difrod, mae Sheila yn dweud ei bod hi'n hollol benderfynol o ailagor yn 2026, er cof am ei gŵr.
"Fe fyddwn ni yn ailagor gobeithiol diwedd mis nesaf yn y flwyddyn newydd. Ni'n benderfynol o ail agor er mwyn Wyndham fel bod ei gof e yma gyda ni."
Mae Sheila yn dweud "nad oedd angen i'r llifogydd ddigwydd" o gwbl ac mae hi'n bryderus efallai bod tai newydd yn yr ardal wedi rhoi straen ar y system garthffosiaeth.
"Se nhw yn stopio'r tai yma i gael eu buildo o gwmpas y lle, fel bod y sewerage yn gallu cymeryd y dwr. Dyw'r sewerage ddim yn gallu cymeryd beth sydd yn dod iddo fe. Mae eisiau gwneud rhywbeth."
Pan ddigwyddodd y llifogydd ar 4 a 5 Tachwedd, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mewn datganiad bod effaith y llifogydd yn Sanclêr wedi cael eu dwyshau gan ddŵr wyneb, a bod hi'n anodd rhagweld ble fyddai llifogydd yn taro yn sgil y glaw trwm sydd yn achosi'r math yma o lifogydd.
Dywedodd Dŵr Cymru bod glaw trwm iawn a llanw uchel wedi bod ar y 4 a 5 Tachwedd wnaeth "orlethu" draeniau'r ffordd fawr.
Fe wnaeth Afon Cynin hefyd "orlifo ei glannau" gan orlethu'r rhwydwaith. Dywedodd y cwmni ei bod yn cydweithio gyda phartneriaid i weld sut bydd modd "cynorthwyo cwsmeriaid yn ystod cyfnodau o law trwm".
Mae criw o drigolion a busnesau lleol wedi ysgrifennu at yr aelod seneddol lleol.
'Datrysiad'
Yn ôl Ann Davies, mae angen gwneud mwy i warchod trigolion lleol yn ystod cyfnodau o law trwm.
"Mae hyn yn esiampl arall ble mae nifer fawr o dai wedi cael eu codi ym Mhwlltrap (ger Sanclêr) sydd yn grêt, mae eisiau nhw, ond mae effaith yn dod lawr at y pentref, a dyw hynny ddim yn cael ei edrych arno o gwbl," meddai.
"Mae'n rhaid i ni gydweithio gyda'n gilydd ac mae'n rhaid ffindio datrysiad. Dyw e ddim yn deg i unrhyw le i gael carthffosiaeth yn dod lan trwy'r draeniau achos does dim lle iddo fynd.
"Ni wedi ysgrifennu at Dŵr Cymru, a 'da ni wedi gofyn am gyfarfod, a byddwn ni yn cael cyfarfod yn y flwyddyn newydd rhwng y cyngor, Dŵr Cymru, NRW, i weld beth allwn ni wneud yn symud mlaen.
"Mae eisiau i ni wybod sut gallwn ni warchod cartrefi yn Sanclêr ac ar hyd (etholaeth) Caerfyrddin)."
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi cael cais i ymateb.
Dywedodd Sheila Phillips ei bod hi'n gobeithio am flwyddyn well yn 2026.
"Ni'n benderfynol o ailagor. Y cwbl yn newydd a bant â ni bydd hi, dechrau eto. Bydd drysau County Stores ar agor."