Powys: Teyrngedau i ddau a fu farw wedi gwrthdrawiad a laddodd dri
Mae teulu dau berson a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys yn gynharach y mis hwn wedi rhoi teyrnged iddyn nhw.
Bu farw tri o bobl wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A489 rhwng Yr Ystog a Lydham ar 11 Rhagfyr.
Mae teyrngedau bellach wedi eu rhoi i ddyn a menyw, David a Pamela, oedd yn teithio yn y car gyda’i gilydd.
“Roedd David a Pamela yn aelodau cariadus o’m teulu,” meddai’r datganiad.
“Roedd y ddau ohonynt yn arbennig iawn i bob un ohonom.
“Fe wnaeth David a Pamela symud i’r ardal yn gynharach y flwyddyn hon er mwyn mwynhau eu hymddeoliad.
“Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod erchyll hwn. Mae wedi golygu gymaint i’r teulu cyfan.
“Hoffwn nawr gael amser i alaru ac rydym yn gofyn am breifatrwydd er mwyn gallu gwneud hynny.”
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys wybod am wrthdrawiad rhwng cerbyd Audi llwyd a Toyota Yaris coch ar ffordd yr A489 am 16.50, ddydd Iau 11 Rhagfyr.
Bu farw dau o bobl oedd yn teithio yn y Toyota Yaris, a gyrrwr yr Audi.
Mae’r llu yn parhau i annog unrhyw un all fod o gymorth gyda’u hymchwiliad, gan gynnwys unrhyw un gyda delweddau dash-cam, i gysylltu â nhw.
