Dau lanc yn euog o lofruddio tad 'cariadus' o'r Barri
Mae dau lanc wedi eu dyfarnu'n euog o lofruddio dyn yn y Barri, ddiwedd Mehefin.
Roedd Kamran Aman yn 38 oed, ac yn dad i un plentyn.
Cafodd y ddau lanc 16 ac 17 oed o Lanilltud Fawr, Bro Morgannwg eu harestio o fewn munudau wedi i'r heddlu dderbyn galwad frys 999.
Fe gafodd yr heddlu eu galw ar ôl adroddiadau fod person wedi ei drywanu ar Heol y Barri ychydig cyn hanner nos ar 30 Mehefin.
Plediodd y ddau, na ellir cyhoeddi eu henwau oherwydd eu hoed, yn euog i ddynladdiad ond roedden nhw wedi gwadu iddyn nhw lofruddio Mr Aman.
Ond wedi achos yn Llys y Goron Caerdydd, dyfarfnodd y rheithgor eu bod yn euog o lofruddiaeth.
Roedd Kamran Aman wedi bod yn siopa ar gyfer ei fam ac yn mynd â'r siopa ati cyn yr ymosodiad.
Siopa
Wedi'r dyfarniad, dywedodd ei Fam, Shenaz: " Y noson y digwyddodd hyn, roedd Kamran wedi dod i fy ngweld i er mwyn gwirio mod i'n iawn.
"Ond yna fe glywais weiddi y tu allan. Pan edrychais y tu allan, fe welais i e ar y llawr.
"Mae'r galar rwy'n ei deimlo y tu hwnt i eiriau. Mae'n brifo nad oedd yn bosib i mi ei afael, i fod ar ei bwys ar yr adeg pan roedd fy angen fwyaf.
"Hyd yn oed yn ei funudau olaf ar y ddaear, roedd e yn dal i feddwl amdana i, pan ddywedodd wrth gymydog i beidio â rhoi gwybod i mi (am yr ymosodiad). Dyna faint roedd yn fy ngharu."
Dywedoddd gwraig Kamran, Khaleela: "Roedd yn dad cariadus i blentyn sydd bellach wedi torri ei chalon, gan nad oes ganddi ei ofal a'i gariad.
"Ei harwr - y person roedd yn ei addoli, ddim yma bellach."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Kath Barry, o Heddlu De Cymru: "Roedd Kamran yn ŵr, tad, mab, brawd ac ewythr a oedd yn cael ei garu'n fawr. Roedd yn aelod poblogaidd o'i gymuned.
"Roedd Kamran yn syml, yn gwneud y siopa ar gyfer ei fam oedrannus adeg yr ymosodiad, a hynny gan ddau berson nad oedd yn eu hadnabod.
“Doedd dim modd iddo ragweld y trais, ac roedd y sefyllfa hyd yn oed yn fwy gwarthus yn sgil y camdrin hiliol a wynebodd, a hynny cyn, yn ystod ac wedi'r ymosodiad.
"O fewn munudau, fe newidiodd bywydau teulu Kamran am byth, ac mae nhw yn dal i geisio deall sut y gallai hyn fod wedi digwydd, yn enwedig y tu allan i'r tŷ y maen nhw wedi ei alw'n gartref ers bron i 20 mlynedd."
