Ymgyrch i ymestyn y tymor twristiaeth yng Nghymru
Mae dydd Llun yn nodi Diwrnod Twristiaeth y Byd, ac i ddathlu’r diwrnod mae Llywodraeth Cymru yn anelu i ymestyn y tymor twristiaeth “er lles Cymru” gan groesawu ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.
Bydd ‘Croeso Cymru’ yn lansio ymgyrch newydd ar gyfer yr hydref a'r gaeaf, gyda’r nod i ysbrydoli ymweliadau yn ystod yr hydref, y gaeaf ac ar gyfer 2022.
Bydd yr ymgyrch hefyd yn cyflwyno Cymru fel cyrchfan sy’n ddelfrydol drwy gydol y flwyddyn er mwyn ceisio ymestyn y tymor twristiaeth a chreu swyddi drwy gydol y flwyddyn.
Gobeithion yr ymgyrch yw targedu’r farchnad yng Nghymru yn ogystal ag ymwelwyr newydd i Gymru o bob rhan o'r DU ac ailgysylltu ag ymwelwyr a allai fod wedi ymweld dros yr haf a'u hysbrydoli i ddychwelyd a phrofi Cymru ar adeg wahanol o'r flwyddyn.
‘Does dim angen i’r antur stopio’
Mae Andrew Hudson, Cyfarwyddwr Masnachol, Zip World wedi croesawu’r ymgyrch.
“Rydym yn cynllunio i gadw ein drysau ar agor drwy gydol y flwyddyn oherwydd rydym yn credu nad oes angen i’r antur stopio pan ddaw’r haf i ben," dywedodd.
"Rydym yn falch o roi Cymru ar y map fel cyrchfan twristiaeth antur drwy gydol y flwyddyn a chredwn bydd y diwydiant yn parhau i fynd o nerth i nerth.
“Mae gweithredu dros yr Hydref a'r Gaeaf yn golygu ein bod wedi gallu dod â nifer o swyddi parhaol drwy gydol y flwyddyn i Dde Cymru ac rydym yn falch o allu recriwtio'n lleol a dod yn rhan o'r cymunedau lle rydym yn lwcus i fod wedi ein lleoli.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae llawer o bobl wedi mwynhau ymweld â rhannau o Gymru eleni nad ydynt erioed wedi ymweld â nhw o'r blaen.
"Ein huchelgais yw tyfu twristiaeth er lles Cymru – twristiaeth sy'n cefnogi ein cymunedau ac sy'n gofalu am ein tir ac sydd o fudd i ymwelwyr a dinasyddion.
"Rydym ni, fel Llywodraeth, yn cymryd camau pendant i adeiladu economi Gymreig gryfach, decach a gwyrddach – i gyflawni cydbwysedd gofalus a thwristiaeth gyfrifol, gan sicrhau bod gweithio gyda chymunedau lleol a phartneriaid cyrchfannau wrth wraidd tyfu twristiaeth er lles Cymru.
"Mae Cymru hefyd yn gyrchfan twristiaeth hardd yn yr hydref a'r gaeaf – ac mae'r ymgyrch yn edrych o'r newydd ar y tymhorau.
"Er mwyn helpu i fynd i'r afael â heriau o ran recriwtio yn y sector, bydd ymgyrch recriwtio lletygarwch Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau drwy gydol yr hydref."
Llun: Kris Griffiths