Newyddion S4C

Etholiad yr Almaen: Plaid Angela Merkel yn cael ei threchu

The Independent 27/09/2021
CC

Mae'r Democratiaid Sosialaidd wedi ennill etholiad yr Almaen o drwch blewyn, gan ddod a chyfnod plaid Angela Merkel mewn grym i ben wedi 16 o flynyddoedd.

Yn ôl Independent, dywedodd y Democratiaid Sosialaidd eu bod nhw wedi derbyn "gorchymyn clir" i ffurfio'r llywodraeth ffederal nesaf, ar ôl iddyn nhw arwain y wlad tro diwethaf yn 2005. 

Cafodd 299 o etholaethau olaf y wlad eu cyfri yn gynnar ddydd Llun, gyda'r canlyniadau yn dangos bod gan y Democratiaid Sosialaidd 25.9% o'r bleidlais a plaid Angela Merkel, y CDU, gyda 24.5%.

Fe fydd raid i arweinydd y Democratiaid Sosialaidd, Olaf Scholz, sydd wedi gweithio fel gweinidog cyllid ers 2018, greu clymblaid er mwyn arwain y llywodraeth nesaf tra bydd Ms Merkel yn parhau i weithio fel canghellor tan i'r broses o ffurfio llywodraeth nesaf y wlad gael ei gadarnhau. 

Darllenwch y stori'n llawn yma

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.