'Peryglus': Rhybudd am avalanche posib ar Yr Wyddfa

Wyddfa Eira

Mae tîm achub mynydd wedi rhybuddio pobol am amodau “peryglus” ar Yr Wyddfa, gan gynnwys achosion o avalanche posib o ganlyniad i dywydd difrifol.

Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn adrodd bod tywydd gaeafol yn “dal i ddatblygu” ar rai o lwybrau mwyaf poblogaidd y mynydd, gan gynnwys llwybr Pyg a llwybr Llanberis.

Mae’r eira diweddar wedi ffurfio gordoeau (cornices) o rew caled ar glogwyni yn agos i’r copa sydd yn anodd eu gweld, ac y gallai “gwympo heb rybudd”, yn ôl datganiad gan y tîm.

"Mewn rhai amgylchiadau, gallai hyn arwain at achosi cwympiadau eira, yn enwedig lle mae llwybrau yn agos at dir serth," meddai llefarydd.

Gyda’r disgwyl am ragor o dywydd gaeafol ddydd Iau a Gwener wrth i Storm Goretti symud ar draws y wlad, maent yn mynnu mai mynyddwyr profiadol yn unig ddylai ystyried dringo’r mynydd.

Dywedodd Elfyn Jones, gwirfoddolwr yn Nhîm Achub Mynydd Llanberis, bod cael yr offer cywir ar gyfer yr amodau, gan gynnwys cramponau a bwyell rhew, yn “hanfodol.”

“Fel y gwelwch o’r llun, ni ellir gweld nifer o’r llwybrau ar hyn o bryd ac maent wedi’u claddu gan eira, gan ddangos pa mor bwysig yw sgiliau llywio da mewn tywydd fel hyn,” meddai Mr Jones.

“Mae’r tywydd yn newid yn gyflym, ac mae rhannau uchaf Llwybr Llanberis a’r rheilffordd yn arbennig o beryglus. 

“Mae’r eira wedi’i gywasgu ac yn rhewllyd, gan olygu fod cramponau a bwyell rew yn hanfodol, ac mae’n anodd gweld dyfnder y llethrau mawr o eira ar hyd y rheilffordd a gallai hynny arwain at syrthiadau difrifol. 

“Mae’r rhain yn sefyllfaoedd gaeafol cymhleth lle mae profiad a barn gadarn yn allweddol.”

Cyngor y tîm i unrhyw un sydd am fentro i’r mynyddoedd yw i “gymryd amser i asesu’r sefyllfa, edrych ar y rhagolygon tywydd, ac ystyried pa mor hyderus maent yn teimlo wrth lywio drwy dirwedd aeafol. 

“Gall bod yn hyblyg gyda chynlluniau a bod yn barod i droi’n ôl wneud gwahaniaeth mawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.