Storm Goretti: Rhybuddion teithio a chau degau o ysgolion wedi eira trwm

Tywydd 8 Ionawr A486

Mae’r awdurdodau ym Mhowys a Cheredigion wedi rhybuddio pobl i beidio â theithio nos Iau yn sgil eira trwm. 

Fe ddaw'r rhybudd wrth i Storm Goretti daro'r wlad, gyda sawl rhybudd tywydd yn dod i rym. 

Mae Cyngor Sir Powys, Cyngor Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys wedi annog pobl i beidio â theithio drwy'r siroedd oni bai ei fod yn “hollol angenrheidiol.” 

Dywed Cyngor Powys fod yr eira wedi creu amodau gyrru anodd “drwy’r sir gyfan” a bod sawl digwyddiad eisoes wedi digwydd ar ffyrdd y sir yn barod. 

Mae’r amodau peryglus wedi achosi gwrthdrawiadau rhwng ceir a lorïau yn ogystal ag oedi ar y ffyrdd. 

Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi y bydd 48 o ysgolion ar gau ddydd Gwener. 

Fe fydd Ysgol Uwchradd Darland yn Wrecsam hefyd ar gau gan y bydd prinder staff o achos y tywydd.

Mae modd dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ysgolion sydd ar gau ddydd Gwener ym Mhowys drwy glicio ar dudalen y cyngor yma:

Powys: https://cy.powys.gov.uk/ysgolionargau

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi un rhybudd oren am eira a thri rhybudd melyn sy'n berthnasol i rannau o Gymru oherwydd y storm, dau ohonynt am eira, un am law, ac un am wynt.

Fe fydd y rhybudd oren am eira mewn grym o 20:00 nos Iau hyd at 09:00 ddydd Gwener. 

Yn y de, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cau’r ffyrdd ar hyd mynyddoedd Rhigos, Maerdy a’r Bwlch oherwydd eira trwm nos Iau. 

Dywedodd y bydd graeanu yn digwydd yn ystod y cyfnod y mae’r ffyrdd ar gau. 

Pa ardaloedd fydd yn cael eu heffeithio gan Storm Goretti?

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod rhwng 10cm a 15cm o eira yn debygol, a hynny yn weddol eang, gyda 20cm-30cm mewn rhai ardaloedd.

Mae disgwyl i'r eira droi yn law ac eirlaw fore Gwener ond mae trafferthion yn sgil yr eira yn debygol o barhau yn ystod dydd Gwener yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Wrecsam
  • Powys
  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Merthyr Tudful
  • Torfaen
  • Blaenau Gwent
  • Sir Fynwy
  • Rhondda Cynon Taf
  • Caerffili

Mae rhybudd melyn am eira hefyd mewn grym o 17:00 nos Iau tan 12:00 fore Gwener. 

Bydd y rhybudd hwn yn berthnasol i dalp helaeth o Gymru heblaw am Ynys Môn ac ardaloedd arfordirol y gogledd.

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law rhwng 12:00 ddydd Iau a 10:00 fore Gwener. 

Fe fydd y rhybudd hwn yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Sir Benfro
  • Abertawe

Mae yna rybudd melyn am wynt hefyd yn berthnasol i Sir Benfro rhwng 15:00 brynhawn Iau a 06:00 fore Gwener. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.