Yr Urdd yn derbyn £3.2 miliwn mewn ewyllys

Mr Urdd

Mae cyfrifon diweddaraf Yr Urdd yn dangos bod y mudiad wedi derbyn ystâd gwerth £3.2 miliwn fel rhodd mewn ewyllys un unigolyn y llynedd.

Yn ôl y cyfrifon gafodd eu cyhoeddi ar ddechrau mis Ionawr, roedd ystâd yr unigolyn yn werth £3,210,273.

Mae'r Urdd wedi ei ddewis i fod yn weinyddwr a buddiolwr ('beneficiary') o'r ystâd.

Nid yw'r cyfrifon yn enwi'r unigolyn oedd wedi gadael ei ystâd i'r Urdd yn ei ewyllys, dim ond nodi eu bod yn byw "yng Nghymru a Lloegr."

Mae Newyddion S4C yn deall mai yng Ngwynedd yr oedd yr unigolyn yn byw.

Dywedodd Yr Urdd wrth Newyddion S4C mewn datganiad eu bod yn "ddiolchgar iawn am y caredigrwydd a’r haelioni a ddangoswyd." 

Ychwanegodd llefarydd fod y blynyddoedd diwethaf "wedi bod yn heriol i’r mudiad o ganlyniad i effaith pandemig COVID-19."

Nid yw'r mudiad yn cyhoeddi manylion personol am unrhyw etifeddiaeth unigol o achos cyfrinachedd a phreifatrwydd.

Ewyllys

Wrth fanylu ar y rhodd, dywed y cyfrifon diweddaraf: "Ar 4ydd Tachwedd 2025, derbyniodd yr elusen gadarnhad o roi Llythyrau Gweinyddu gydag Ewyllys mewn perthynas ag ystâd person ymadawedig, a fu farw ar 6 Ionawr 2023 yn byw yng Nghymru a Lloegr. 

"Mae'r cais yn nodi bod gwerth gros yr ystâd yn £3,210,273 a'r gwerth net yn £3,201,235. 

"Penodwyd yr elusen, Urdd Gobaith Cymru, yn weinyddwr a buddiolwr o dan yr Ewyllys. Ni ellir mesur effaith ariannol y digwyddiad hwn yn ddibynadwy ar y dyddiad adrodd; felly, ni wnaed unrhyw addasiad i'r datganiadau ariannol. 

"Darperir datgeliad i hysbysu defnyddwyr y cyfrifon am y digwyddiad arwyddocaol hwn sy'n digwydd ar ôl dyddiad y fantolen."

Dywed y cyfrifon nad oedd modd mesur effaith ariannol y rhodd ar ddarlun cyflawn sefyllfa ariannol y mudiad ar ddyddiad ffeilio'r cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau, ac felly nid oedd y cyfrifon diweddaraf wedi cael eu haddasu i adlewyrchu effaith "arwyddocaol" y rhodd.

Arian wrth gefn

Wrth edrych ar y darlun ariannol cyffredinol yn y cyfrifon, roedd gan Yr Urdd gyfanswm o £32,377,071 yn y cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn. 

Mae'r cyfrifon hefyd yn nodi y bydd rhoddion mewn ewyllysion yn cyfrannu at adnewyddu cyfleusterau yn y canolfannau preswyl yn y dyfodol:

"Ar 31 Mawrth 2025, roedd y cronfeydd rhydd yn £5,269,315 (2024: £5,771,060). Mae'r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol o waddol a fydd yn cael ei ddosbarthu i'r elusen ar ôl setlo ystadau amrywiol unigolion, gan gynnwys ystâd sylweddol a gadarnhawyd gan roi Llythyrau Gweinyddu ar 4 Tachwedd 2025, gyda gwerth net o tua £3.2 miliwn. 

"Dylai'r derbyniadau disgwyliedig hyn ddod ag arian rhydd yn ôl yn unol â tharged yr Ymddiriedolwyr ar ôl caniatáu ar gyfer gwariant ar adnewyddu cyfleusterau yn y canolfannau preswyl. Y strategaeth hirdymor yw parhau i gynyddu arian rhydd yn y dyfodol trwy greu gwarged blynyddol ar weithgareddau."

Chwyddiant

Mae'r cyfrifon hefyd yn nodi bod chwyddiant wedi cael effaith ar sefyllfa'r mudiad yn ystod y flwyddyn:

"Er bod y canolfannau preswyl wedi gallu darparu ar gyfer dros 103,000 o ymwelwyr dros nos, cafodd chwyddiant uchel effaith ar gostau rhedeg y canolfannau preswyl, ac felly nid oedd y cyfraniad incwm net yn ôl i'r lefelau a welwyd cyn pandemig COVID."

Dywedodd yr Urdd wrth Newyddion S4C mewn datganiad: "Bydd y rhodd, unwaith y’i derbynnir, yn dod a’r cronfeydd wrth gefn yn ôl i’r lefel y dylent fod yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennol ac yn cryfhau sefydlogrwydd ariannol yr Urdd.

"Oherwydd rhwymedigaethau preifatrwydd a chyfrinachedd, ac fel mater o bolisi, nid ydym yn rhannu manylion personol am unrhyw etifeddiaeth unigol, ac nid oes gennym ddatganiad pellach i’w ryddhau ynghylch yr ewyllys hon ar hyn o bryd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.