Caernarfon: Cannoedd yn protestio yn erbyn canolfan ddata ar lannau’r Fenai

Caernarfon: Cannoedd yn protestio yn erbyn canolfan ddata ar lannau’r Fenai

Daeth cannoedd i Gaernarfon fore Sadwrn i brotestio yn erbyn cynlluniau i godi canolfan ddata newydd ar lannau'r Fenai.

Fe ddaeth tua 500 o bobl ynghyd yng nghanol y dref gyda’r gwrthwynebwyr yn pryderu am effaith amgylcheddol y safle, yn ogystal â'i faint a'i leoliad.

Bwriad y cwmni datblygu ydi codi canolfan fyddai'n ymestyn dros 41 hectar ar hen safle ffatri Ferodo rhwng Caernarfon a'r Felinheli.

Yn ôl y datblygwyr, sy'n dweud bydd dim effaith ar gyflenwadau dŵr lleol, byddai'r fenter yn arwain at o gwmpas 900 o swyddi yn y cyfnod adeiladu a 200 yn barhaol.

Ond gyda dros 22,500 o bobl wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r cynllun, mae ymgyrchwyr yn dweud y byddai’n dinistrio golygfeydd ac nad yw’r safle'n addas.

Image
Protest yng Nghaernarfon

Dywedodd AS Plaid Cymru, Beca Brown, wrth y dorf: “Mae hanes Cymru yn llawn enghreifftiau o gymunedau yn gorfod ysgwyddo baich datblygiadau anaddas tra bod rhywun arall yn rhywle arall yn mwynhau buddiannau y datblygiadau anaddas rheini.

"Mae’r cais cynllunio sydd wedi dod â ni at ein gilydd yn gwbl, gwbl anaddas i’r lleoliad sydd dan sylw.

“Y maint, y scale, y llygredd sŵn a golau, yr adnoddau ynni a dŵr byddai’n cael eu llyncu a’r amgylchedd naturiol a fyddai’n cael ei effeithio."

Adeilad 30 metr o uchder

Mae'r datblygiad yn destun cais cynllunio i Gyngor Gwynedd gyda'r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 17 Hydref.

Mae'r cais cynllunio yn dangos y byddai'r ganolfan yn ymestyn dros safle 41 hectar a byddai'r adeilad uchaf ar y safle tua 30 metr o uchder. Mi fyddai'r safle yn cynnwys sawl warws lle fyddai peiriannau storio data yn cael eu cadw.

Yn ôl y datblygwyr, cwmni Gwelyfenai Ltd, mi fyddai'r datblygiad yn dod â hen safle sy'n adfail yn ôl i ddefnydd, yn creu swyddi lleol ac yn cael ei reoli mewn modd cynaliadwy.

Image
Canolfan Ddata Menai
Arwynebedd ardal y datblygiad (yn y bocs coch), gyda cheisiadau cynllunio eraill blaenorol gerllaw. Caernarfon sydd i'r de (Llun: Cyngor Gwynedd)

Mae safle hen ffatri Ferodo wedi ei lygru gan asbestos, a dywedodd Gwelyfenai mewn datganiad blaenorol y byddai'r cynllun yn "sicrhau bod y safle’n cael ei lanhau’n drylwyr, a hynny drwy gyllid preifat."

Dywedodd y cwmni hefyd mai'r "gofyniad dŵr dyddiol mwyaf tebygol yw tua 700,000 litr, sydd tua’r un faint â gwesty mawr" ac y byddai "mesurau dylunio manwl a thirlunio yn ceisio lleihau effaith weledol yr hyn rydym yn cydnabod sy’n ddatblygiad sylweddol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.