Stigma iechyd meddwl yn dal yn ‘anferthol’ wrth i Meddwl.org nodi deng mlynedd

Vicky Powner ac Alaw Griffiths

Mae’r stigma ynghylch salwch meddwl yn dal yn “anferthol” ac yn gallu golygu “y gwahaniaeth rhwng byw a marw”, meddai menyw sydd wedi profi iselder ôl-enedigol difrifol.

Wrth i wefan Meddwl.org nodi deng mlynedd ers ei sefydlu, mae Alaw Griffiths yn dweud bod pobl yn fwy cyfforddus yn trafod iechyd meddwl, ond bod “lot fawr o ffordd i fynd eto”.

Cafodd Hedd Gwynfor a Manon Elin, a ddaeth ar draws ei gilydd trwy Gymdeithas yr Iaith, eu hysbrydoli i sefydlu’r wefan ar ôl darllen cyfrol dan olygyddiaeth Alaw, ‘Gyrru Drwy Storom’.

Fe gafodd y gyfrol honno ei lansio ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2015, ac ynddi mae 11 o unigolion yn rhannu eu profiadau o iechyd meddwl yn agored ac yn Gymraeg.

Mewn sgwrs gyda Newyddion S4C, fe ddywedodd Alaw: “Mae’r stigma dal yna - mae’r stigma yn anferthol.

“Mae hwnna’n broblem enfawr - yn broblem, wel, y gwahaniaeth rhwng byw a marw yn syml iawn,” meddai Alaw.

Dywedodd ei bod hi’n teimlo fel ei bod yn “boddi” a “methu gweld dim pellach” na’i thrwyn pan oedd mewn lle tywyll.

Y nod wrth sefydlu Meddwl.org oedd mynd i’r afael â’r diffyg cymorth a gwybodaeth yn Gymraeg i bobl oedd yn byw gyda salwch meddwl, a cheisio chwalu’r stigma.

Adeg cychwyn Meddwl.org, roedd ffigurau gan Gymdeithas yr Iaith yn nodi bod canran y staff oedd yn medru'r Gymraeg oedd yn gweithio ym maes iechyd meddwl yn isel iawn, gyda chanran mor isel â 1.9% mewn un bwrdd iechyd.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Manon mai’r syniad y tu ôl i’r wefan oedd “creu cymuned lle gallai pobl drafod iechyd meddwl yn agored” ac “i ddysgu mwy am gyflyrau gwahanol”.

Erbyn hyn mae’r wefan wedi cyhoeddi dros 300 o flogiau, gan gynnwys cyfraniadau gan enwogion fel Tara Bethan, Non Parry a Miriam Isaac.

Image
Vicky Meddwl
Mae Vicky Powner wedi cyfrannu at wefan Meddwl drwy siarad am ei phrofiad wedi derbyn diagnosis o awtistiaeth.

Angen i bobl deimlo’n ‘lletchwith’

Ymysg y rheini sydd wedi cyfrannu at y wefan y mae Vicky Powner o Sir Benfro, gan rannu ei phrofiad o niwrowahaniaeth, awtistiaeth ac ADHD:

“’Nes i ddod i adnabod Manon ar ôl imi gael diagnosis o awtistiaeth, ac fe ofynnodd imi a fyddwn i’n fodlon ysgrifennu blog ar gyfer y wefan,” meddai.

“Efallai mod i’n gor-rannu weithiau, ond ‘dw i’n rhannu er mwyn treial codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, a thorri rhai o’r stereoteipiau ‘na.

“Weithiau, pan fydda i’n rhannu’r ochr fwy heriol o’m profiad i, neu am bethau mwy anodd, dwi’m yn cael ymateb ac efallai bod hynny am nad yw pobl yn gwybod sut i ymateb, neu’n anghytuno.

“Ond dyna pam dwi’n ei ‘neud e - mae angen i bobl deimlo bach yn lletchwith er mwyn derbyn yr ochr arall i bethau,” meddai Vicky.

Image
Panelwyr Niwrowahaniaeth
Vicky Powner ymysg panelwyr yn rhannu eu profiadau ar niwrowahaniaeth ac iechyd meddwl. Llun: Meddwl.org

Er mai gwefan yn unig yr arferai Meddwl.org fod, mae ganddi bellach bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, ac fe ddywedodd Alaw fod hynny’n “gwbl hanfodol”:

“Pan mae rhywun yn sâl - fel o’n i ac fel dwi ‘di bod sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd fel miliynau o bobl eraill allan yn y byd - dydy’r egni ddim yna, dydy’r awydd ddim yna i gwffio neu i ymgyrchu o gwbl achos ‘dyn ni’n sâl ar y pryd!

“Mae ‘na deimladau cryf iawn yn dod i’r arwyneb pan mae rhywun mewn lle tywyll.

“O’n i’n arfer ei ddisgrifio fo fel mod i mewn niwl a mod i ddim yn gallu gweld dim pellach na fy nhrwyn.

“Be mae gwefan, neu elusen erbyn hyn, Meddwl.org wedi’i wneud ydy galluogi i bobl sydd yn sâl i fynd i rywle sydd yn saff, yn eu hiaith, yn ein hiaith ni’n hunain i gael y wybodaeth sydd angen arnom ni pan ‘dyn ni yn y lle andros o dywyll yna.”

Fel rhan o ddathlu deng mlynedd, fe fydd Caryl Parry Jones, Cadog, EDEN, Lleuwen ac Academi Berfformio Caerdydd yn ymgasglu i nodi’r digwyddiad ar 24 Hydref draw yn Neuadd Pontyberem yn Llanelli.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.