'Newid go iawn i'r Bala': Estyniad Rheilffordd Llyn Tegid gam yn nes wedi grant llywodraeth

Rheilffordd Llyn Tegid

Fe fydd y gwaith o ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid i ganol y Bala yn cychwyn o ddifrif mewn llai na mis wedi i’r fenter dderbyn grant “ffantastig” o £850,000 gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd cadeirydd ymddiriedolaeth y rheilffordd, Julian Birley, ei fod wedi “cyffroi’n lân” gyda’r gefnogaeth, sy’n rhoi “llwyfan i newid go iawn yn y Bala”.

Ar hyn o bryd, mae’r rheilffordd yn rhedeg o orsaf Pen-y-Bont, tua hanner milltir o’r dref, ar hyd y llyn i Lanuwchllyn.

Bydd yr estyniad, sydd wedi bod yn yr arfaeth ers 2014, yn dod â’r rheilffordd i ganol y dref, gyda gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu, ynghyd â chaffi a chanolfan gwybodaeth i ymwelwyr.

Mae’r arian yn rhan o fuddsoddiad gwerth £10 miliwn i gryfhau trefi ar draws Cymru gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener.

“Wedi’r holl flynyddoedd o waith caled gan ein gwirfoddolwyr, a’r gwaith o brynu’r tir, sicrhau’r caniatâd a phopeth, mae cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ddatblygiad rhagorol,” meddai Mr Birley wrth Newyddion S4C.

“‘Rŵan mae gynnon ni lwyfan i greu newid go iawn yn y Bala, i helpu’r economi lleol, creu gwaith - mi ydan ni wedi cyffro’i lân. Ffantastig.”

'Wir yn mynd i ddigwydd'

Dywedodd y byddai rhan gyntaf y gwaith yn cychwyn mewn llai na mis, ar 2 Tachwedd.

“‘Dan ni’n gwneud Rhan 1, sef adeiladu’r arglawdd wrth ochr y clwb rygbi a gosod cledrau dros hanner y pellter hwnnw erbyn mis Mawrth," meddai.

“Mae hwn yn arwyddocaol achos, ar ôl derbyn yr holl ymddiriedaeth a ffydd gan ein cefnogwyr… bydd gynnon ni rhywbeth i’w ddangos. Ac mae hynny’n sicr o helpu’r prosiect ymhellach drwy ddangos bod hwn wir yn mynd i ddigwydd.”

Mae'r estyniad wedi derbyn cefnogaeth yn lleol, gan gynnwys gan Gyngor Gwynedd, ac fe gafodd y cynlluniau eu cymryd i ystyriaeth pan wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru uwchraddio'r amddiffynfeydd llifogydd wrth ochr Llyn Tegid rai blynyddoedd yn ôl.

Cafodd y fenter ganiatâd cynllunio yn 2024, flwyddyn ar ôl i fersiwn gynharach o'r cais gael ei gwrthod, yn rhannol oherwydd pryder am lefel y ffosffadau fyddai'n cael eu cynhyrchu yn sgil y datblygiad.

Image
Rheilffordd Llyn Tegid

Y bwriad yw cynyddu nifer y teithwyr ar y lein i 60,000 y flwyddyn - bron i ddwbl y nifer a deithiodd yn 2023, sef 34,000.

Ail ran y datblygiad fydd adeiladu gorsaf newydd, gyda chamau 3 a 4 yn ymwneud ag ymestyn y cledrau dros Afon Dyfrdwy a chysylltu'r estyniad gyda’r rheilffordd bresennol.

Dywedodd Mr Birley y bydd yr orsaf newydd yn gam arwyddocaol achos bydd yn "adeilad trawiadol ac yn gyrchfan dda yn ei hun".

Ychwanegodd bod angen mwy o gyllid ar y prosiect i'w wireddu'n llawn.

“‘Dan ni dal angen dod o hyd i £3 miliwn, ond ‘dan ni wedi codi, gan gynnwys y grant gan y llywodraeth, dros £2.5 miliwn yn barod,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.