Lee Trundle yn 50: 'Cyfnodau gorau fy ngyrfa wedi bod yng Nghymru'

Lee Trundle

Mae cyn-ymosodwr Abertawe, Lee Trundle, wedi dweud bod cyfnodau gorau ei yrfa bêl-droed wedi bod yng Nghymru, wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed ddydd Sadwrn.

Er iddo gael ei eni yn Lerpwl, dywedodd Trundle wrth Newyddion S4C ei fod bellach yn ystyried Cymru ac Abertawe yn gartref iddo, a'i fod yn ddiolchgar am y cyfleoedd mae wedi'u cael i chwarae pêl-droed yn y wlad.

Mae e'n dal i chwarae pêl-droed, wedi iddo ymuno â Thref Cwmbrân, sy'n chwarae yn nhrydedd haen cynghreiriau Cymru, dros yr haf.

Daeth Trundle yn ffefryn mawr ymhlith cefnogwyr yr Elyrch wedi iddo ymuno â'r clwb o Wrecsam yn 2003, gan ddod yn enwog am ei driciau gyda'r bêl a'i goliau trawiadol.

Er iddo adael Abertawe am Bristol City yn 2007, fe ddychwelodd ar fenthyg yn 2009 ac mae bellach yn llysgennad i'r clwb.

Dydd Sadwrn mae'n dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed, ac nid oes ganddo unrhyw fwriad i roi'r gorau i chwarae pêl-droed eto.

'Gwerthfawrogi pob munud'

Mae Trundle yn parhau i chwarae i Gwmbrân yng nghynghreiriau Cymru, ac mae hefyd yn chwarae pêl-droed i dimau hŷn Llanelli.

Yn ystod ei gyfnod yn chwarae i dimau fel Rhydaman a Threfelin, mae wedi parhau i sgorio goliau.

Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi pob cyfle mae'n ei gael i chwarae ar y cae, ac yn chwarae pob gêm fel petai honno'n gêm olaf iddo.

"Rydw i wrth fy modd yn chwarae. Dyna pryd rydw i fwyaf hapus, mae'n debyg, rydw i wrth fy modd bod ar y cae ac yn yr ystafell newid," meddai wrth Newyddion S4C.

"Boed hynny gyda Chwmbrân yn y gynghrair Gymreig neu mewn gemau gyda'r timau hŷn, rydw i wrth fy modd yn chwarae.

"Rydw i'n chwarae pob gêm fel petai hi'n gêm olaf i mi.

"Rydw i wedi chwarae ar bob lefel, o bêl-droed amatur i'r cynghreiriau proffesiynol, felly, does dim ots pa gae rydw i'n chwarae arno, rydw i'n gwerthfawrogi pob eiliad rydw i allan yna."

Image
Lee Trundle yn dathlu ar ôl sgorio yn erbyn Y Barri. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Lee Trundle yn dathlu ar ôl sgorio yn erbyn Y Barri. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

'Digon o bêl-droed ar ôl yn y coesau'

Er iddo osod targed iddo'i hun o barhau i chwarae yng nghynghreiriau Cymru nes ei fod yn 50 oed, dywedodd Trundle nad oedd wedi penderfynu pryd y byddai'n ymddeol.

"Roeddwn i wastad wedi dweud fy mod i eisiau parhau nes fy mod i'n 50 oed yng Nghymru, ond bydd [parhau] yn dibynnu ar sut mae fy nghorff yn teimlo.

"Unwaith y bydda i'n teimlo nad ydw i'n cyfrannu at y tîm, bydda i'n gorffen."

Bydd Abertawe yn nodi pen-blwydd Trundle yn ystod eu gêm gartref yn erbyn Norwich City ddydd Sadwrn, gyda chystadleuaeth sgiliau arbennig yn cael ei chynnal yn ystod hanner amser.

'Cymru yw fy nghartref'

Dywedodd Trundle mai yng Nghymru y cafodd y rhan fwyaf o'i lwyddiant fel pêl-droediwr.

Dechreuodd ei yrfa yn Lloegr, cyn symud i'r Rhyl yn 2000. Yn ystod ei yrfa yng Nghymru mae hefyd wedi chwarae i Wrecsam, Abertawe, Castell-nedd, Llanelli, Hwlffordd, Rhydaman a sawl clwb arall.

"Os ydych chi'n edrych ar fy ngyrfa, mae'n debyg bod fy nghyfnodau gorau wedi bod yng Nghymru," meddai.

"Mae hynny'n mynd yn ôl i'r Rhyl, lle roeddwn i'n chwarae'n dda iawn, ac roedd yr un peth yn wir am Wrecsam ac Abertawe.

"Mae'r rhan fwyaf o fy llwyddiant wedi bod yng Nghymru."

Image
Lee Trundle yn ei ddyddiau cynnar gydag Abertawe. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Lee Trundle yn ei ddyddiau cynnar gydag Abertawe. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Ychwanegodd y byddai ei gysylltiad â Lerpwl bob amser yn bwysig iddo, ond ei fod bellach yn ystyried Abertawe yn gartref.

"Mi fydda i wastad yn Scouser. Dwi erioed wedi colli fy acen a bydda i wastad yn siarad yr un ffordd.

"Ond dwi'n gweld Cymru ac Abertawe fel fy nghartref. Dyma'r lle rydw i wedi cael y mwyaf o lwyddiant, ac rydw i wedi byw hanner fy mywyd yma hefyd.

"Mae'n lle gwych ac rydw i wastad yn hyrwyddo Cymru, boed hynny drwy bêl-droed neu'r wlad ei hun. Dwi wrth fy modd yn byw yma."

Roedd Trundle yn enwog ymhlith cefnogwyr yr Elyrch am sgorio goliau trawiadol, yn ogystal â’i driciau a’i allu i wneud rhywbeth annisgwyl ar y cae.

Ond o’r holl goliau a sgoriodd dros Abertawe, mae un yn sefyll allan iddo, sef ei foli yn Stadiwm y Mileniwm yn rownd derfynol Tlws y Gynghrair Bêl-droed yn 2006.

Sgoriodd Trundle ddwywaith wrth i’r Elyrch drechu Carlisle United 2-1 o flaen miloedd o gefnogwyr Abertawe yng Nghaerdydd.

Wrth gael ei holi pa un gôl yr hoffai ei hail-fyw, dywedodd: “Y foli yn Stadiwm y Mileniwm yn y rownd derfynol.

“I fi, dyna oedd fy rownd derfynol Cwpan FA. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i byth yn chwarae mewn gêm fwy na hynny.

“Roedd hi yn Stadiwm y Mileniwm, gyda thua 40,000 o gefnogwyr yr Elyrch yno.

“Roedd hi’n rownd derfynol, gyda chyfle i ennill cwpan, ac roedd dy deulu a dy ffrindiau yn gallu rhannu’r diwrnod gyda ti.

“Felly petawn i’n gallu ail-fyw unrhyw foment, honno fyddai hi.”

Image
Trundle yn sgorio yn y brifddinas i Abertawe. Llun: CPD Dinas Abertawe
Trundle yn sgorio yn y brifddinas i Abertawe. Llun: CPD Dinas Abertawe

'Bwriadu dychwelyd i Lerpwl'

Dywedodd Trundle nad oedd erioed wedi dychmygu y byddai'n ymgartrefu yn Abertawe pan ymunodd â'r Elyrch yn 2003.

Ar y pryd, dim ond cytundeb blwyddyn a lofnododd gyda'r clwb, a dyna oedd y tro cyntaf iddo symud i ffwrdd o'i gartref yn Lerpwl.

"Roeddwn i wastad wedi dweud y byddwn i'n mynd yn ôl i Lerpwl cyn gynted ag y byddai fy ngyrfa wedi dod i ben.

"Pan wnes i arwyddo i Abertawe, dim ond cytundeb blwyddyn wnes i ei arwyddo.

"Ond o fewn dau fis o fod yma, oherwydd y ffordd roeddwn i wedi dechrau gydag Abertawe, byw yn y ddinas, cerdded o gwmpas a siarad gyda'r cefnogwyr, a'r ffordd roedden nhw'n gwneud i mi deimlo, fe wnes i arwyddo cytundeb newydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.