Abertawe: John Toshack yn gwneud ymddangosiad prin cyn gêm

John Toshack cyn gêm yn Abertawe

Mae eicon pêl-droed Cymru, John Toshack, wedi gwneud ymddangosiad cyhoeddus am y tro cyntaf ers cryn amser, gan ddod ar y cae cyn gêm yn Abertawe brynhawn dydd Sadwrn.

Mae Toshack wedi bod yn brwydro problemau iechyd dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd yn westai i CPD Abertawe cyn gêm yr Elyrch yn erbyn Norwich City yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm Swansea.com.

Cafodd y gŵr 77 oed groeso gwresog a swnllyd gan dorf ei gyn-glwb, lle buodd yn chwarae a rheoli mewn cyfnod llwyddiannus i'r Elyrch.

Fe ddaeth Toshack ynghyd ar y cae gydag aelodau o'r garfan a arweiniodd ef at ddyrchafiad i'r haen uchaf ym 1981.

Yn gynharach yn y dydd, fe rhannodd Toshack, sydd hefyd yn gyn-reolwr ar Gymru, lofnodion a siarad â chefnogwyr wrth iddo gyrraedd y stadiwm.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.