'Anrheg i Putin': Dicter yn Wcráin wrth i Trump arwyddo cytundeb diesel gyda Rwsia
Mae Wcráin wedi rhybuddio na fydd rhoi "anrhegion i Putin" yn arwain at heddwch wedi i'r Arlywydd Donald Trump selio cytundeb i brynu diesel o Rwsia.
Mae arweinydd yr Unol Daleithiau dan bwysau gwleidyddol gartref yn sgil y cynnydd llym diweddar ym mhrisiau tanwydd, a dywedodd y bydd y cytundeb gyda Vladimir Putin, arlywydd Rwsia, yn "dod â phrisiau i lawr i Americanwyr, ac i'r byd... yn sydyn".
Ond mae Wcráin, sydd wedi bod yn rhyfela â Rwsia ers bron i bum mlynedd erbyn hyn, wedi ymateb gydag anghrediniaeth i'r cyhoeddiad, gan ddweud fod "gadael i Rwsia werthu cynnyrch petrol yn fuddsoddiad mewn rhyfel sydd angen ei stopio, nid ei ymestyn".
Dywedodd yr Arlywydd Volodymyr Zelensky fod gwanhau sancsiynau ar Moscow "heb gytundeb glir" ynghylch atal y brwydro yn "wendid amlwg".
"Fydd anrhegion i Putin ddim yn dod â heddwch nag unrhyw fudd i'r byd gwâr," meddai'r arlywydd. "Bydd Rwsia yn 'talu 'nôl' am y diesel gyda mwy o arswyd a thwyll."
Cyhoeddodd yr Arlywydd Trump y fargen gyda Rwsia nos Wener. Bydd Rwsia'n cyflenwi 300,000 tunnell o ddiesel yn syth, gyda 500,000 tunnell i ddilyn ym mis Tachwedd, a miliwn tunnell "yn syth wedyn," meddai.
Sut fydd Rwsia'n elwa?
Does dim gwybodaeth swyddogol hyd yma am faint bydd yr UDA yn talu am y tanwydd, ond mae'n sicr o helpu coffrau Rwsia, sy'n ddibynnol ar incwm o gynnyrch olew a nwy i ariannu'r rhyfel yn Wcráin, yn ogystal â gwasanaethau sylfaenol i ddinasyddion.
Am y rheswm hynny, mae Wcráin wedi targedu safleoedd gweithgynhyrchu olew o fewn Rwsia, gan gynnwys purfeydd, gydag ymosodiadau drôn cyson dros y misoedd diwethaf.
Roedd yr Arlywydd Trump wedi galw ar yr awdurdodau yn Kyiv i ddod â'r ymosodiadau ar safleoedd o'r fath i ben er mwyn sefydlogi prisiau tanwydd.
Ond mae arbenigwyr wedi codi amheuaeth am y cysylltiad rhwng gweithredodd lluoedd arfog Wcráin a phrisiau rhyngwladol - gan bwyntio, yn hytrach, at ryfel yr UDA ac Israel yn erbyn Iran, a arweiniodd at gynnydd sylweddol mewn prisiau olew yn syth ar ôl yr ymosodiadau cyntaf ddiwedd mis Chwefror eleni.
Mae'r cynnydd wedi gadel yr Arlywydd Trump dan bwysau ymhlith etholwyr yn yr UDA - a hynny cyn etholiadau canol tymor (midterms) allweddol ym mis Tachwedd.
DU: 'Parhau i roi pwysau ar Rwsia'
Wrth ymateb i'r fargen rhwng Washington a Moscow, dywedodd Llywodraeth y DU y bydd yn parhau i gefnogi Wcráin.
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid rhyngwladol i sicrhau fod gan Wcráin y gefnogaeth ariannol a filwrol i amddiffyn ei hun," meddai llefarydd.
"Byddwn hefyd yn parhau i roi pwysau ar Rwsia drwy'r gyfres fwyaf llym o sancsiynau yn hanes y DU, gan gynyddu'r gost i Putin am ei rhyfelgarwch a chefnogi ymdrechion i sicrhau heddwch cyfiawn a hirhoedlog."
Lluniau: Volodomyr Zelensky/X, Y Tŷ Gwyn
