Heddlu Malaysia yn dod o hyd i gorff ar ôl i ddyn o Sir Fynwy fynd ar goll

Mark Counsell

Mae Heddlu Gwent wedi cael gwybod bod yr awdurdodau ym Malaysia wedi dod o hyd i gorff dyn, a hynny yn dilyn apêl am wybodaeth wedi i ddyn o Sir Fynwy fynd ar goll wrth deithio yn ne ddwyrain Asia. 

Fe gyhoeddodd y llu apêl am wybodaeth ddydd Mawrth, gan nad oedd unrhyw un wedi gweld Mark Counsell, 31 oed o Bont-y-pŵl, ers galwad ffôn fideo rhwng 09.00 a 10.00 ar ddydd Nadolig.

Mae Heddlu Gwent bellach wedi cael gwybod gan yr heddlu ym Malaysia eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff dyn yn y wlad ddydd Mercher. 

Dyw corff y dyn ddim wedi cael ei adnabod yn swyddogol ar hyn o bryd, ond mae teulu Mr Counsell wedi cael gwybod am y datblygiad, meddai’r llu. 

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Mark yn ystod y cyfnod anodd hwn,” ychwanegodd. 

Dydy’r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.