Newyddion S4C

Angen i Lafur ganolbwyntio ar eu llwyddiannau yn hytrach na methiannau, medd Drakeford

Nation.Cymru 27/09/2021
Llywodraeth Cymru

Mae Mark Drakeford wedi dweud y dylai Llafur ganolbwyntio ar rannau o'r DU lle maen nhw'n ennill yn hytrach na chanolbwyntio ar eu methiannau i ennill pŵer yn San Steffan. 

Daw sylwadau Prif Weinidog Cymru mewn araith ar ddatganoli yn y gynhadledd yn Brighton. 

Yn yr araith, fe nododd Mr Drakeford fod y blaid Lafur eisoes mewn grym ar draws y Deyrnas Unedig - gan nodi fod etholwyr wedi ymddiried yn y blaid yng Nghymru yn yr etholiad ym mis Mai. 

"Mae'r gynhadledd yn gyfle i atgoffa ein hunain ein bod ni mewn pŵer, er nad ydym mewn pŵer yn San Steffan," meddai. 

"Mae'r angen i ni ddysgu pam nad ydym yn ennill yn amlwg ac yn angenrheidiol. 

"Mae angen i ni edrych ar ein llwyddiannau yn Lloegr, Yr Alban a Chymru er mwyn deall sut y gallwn ennill yn yr etholiad cyffredinol nesaf."

Mewn neges ar Twitter, dywedodd Elliw Gwawr Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru fod "pobl ar eu traed yn cymeradwyo Mark Drakeford ar ddiwedd ei araith". 

Daw sylwadau'r Prif Weinidog ar ôl i Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon, Beth Winter, ddweud ei bod yn pryderu na fyddai'r blaid yn ennill yn yr etholiad nesaf yn San Steffan. 

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: Llywodraeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.