Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar brif benawdau'r bore ar ein gwasanaeth ar fore Sul, 26 Medi.
Cynllun fisas dros dro i weithwyr tramor 'ddim yn ddigon' – Sky News
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi mesuru i gynyddu nifer y gyrwyr lorïau HGV er mwyn mynd i’r afael â phrinder nwyddau mewn archfarchnadoedd a thanwydd mewn gorsafoedd petrol. Mae arweinwyr busnes wedi dweud na fydd y cynllun fisa "yn ddigon".
Seiclwr wedi marw mewn gwrthdrawiad gyda bws yn Eryri
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi fod seiclwr wedi marw mewn gwrthdrawiad gyda bws yn Eryri fore dydd Sadwrn. Bu farw'r seiclwr 66 oed ar ffordd yr A4806 rhwng Pen y Pass a Nant Peris am 11:40.
Arestio dyn mewn ymchwiliad i lofruddiaeth athrawes ifanc – The Guardian
Mae dyn 38 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio’r athrawes Sabina Nessa yn Llundain. Cafodd y dyn ei arestio am 03:00 fore ddydd Sul mewn cyfeiriad yn nwyrain Sussex. Mae’r heddlu wedi disgrifio’r arestiad fel “datblygiad sylweddol”.
‘Roedd fy nhad-cu yn ysbïwr...a’i enw oedd Bond. James Bond’
Mae dyn o Lanelli wedi galw am gydnabyddiaeth i ysbiwyr yr Ail Ryfel Byd, rai blynyddoedd wedi iddo ddarganfod fod ei dad-cu, James Bond, yn ysbïwr.
Dyn lleol 40 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn
Mae dyn lleol 40 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn brynhawn dydd Sadwrn. Cafodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru eu galw yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad un cerbyd ar ffordd y B5109 rhwng Llangoed a Biwmares am 16:20.
Y bocsiwr Anthony Joshua'n colli ei deitlau pwysau trwm – Mirror
Colli oedd hanes y bocsiwr Anthony Joshua yn ei ornest yn erbyn Oleksandr Usuk o'r Iwcrain yn Llundain nos Sadwrn. Mae'r canlyniad yn golygu ei fod wedi colli'r tri teitl pwysau trwm oedd ganddo, ac hynny am yr eildro mewn pedair gornest.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.