Newyddion S4C

Seiclwr wedi marw mewn gwrthdrawiad gyda bws yn Eryri

25/09/2021
Pen y Pass

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi fod seiclwr wedi marw mewn gwrthdrawiad gyda bws yn Eryri fore dydd Sadwrn.

Bu farw'r seiclwr 66 oed ar ffordd yr A4806 rhwng Pen y Pass a Nant Peris am 11:40.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ond roedd y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.

Roedd y ffordd ar gau am gyfnod yn ystod y dydd cyn iddi ail-agor am 18:20.

Dywedodd Sarjant Raymond Williams o Uned Blismona'r Ffyrdd fod swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth i deulu'r dyn fu farw.

"Rydym yn ymchwilio i'r digwyddiad hwn fel gwrthdrawiad traffig angheuol ac yn gofyn i unrhyw lygaid-dystion, sydd heb gysylltu yn barod i gysylltu gyda'r heddlu i rannu unrhyw wybodaeth neu ddelweddau dash-cam.

"Hoffwn ddiolch i ddefnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod y ffordd ar gau."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod z141608.  

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.