Dyn lleol 40 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn
Mae dyn lleol 40 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn brynhawn dydd Sadwrn.
Cafodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru eu galw yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad un cerbyd ar ffordd y B5109 rhwng Llangoed a Biwmares am 16:20.
Dywed yr heddlu fod swyddog yr heddlu a nyrs o'r Iwerddon oedd ddim ar ddyletswydd ar y pryd, wedi ymdrechu i achub bywyd y dyn oedd yn gyrru cerbyd Mitsubishi du, ond bu farw yn y fan a'r lle.
Dywedodd Sarjant Raymond Williams o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Rwyf yn rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf gyda theulu'r dyn ar yr adeg anodd hwn.
"Mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel gwrthdrawiad traffig angheuol. Rwy'n apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd rhwng Llangoed a Biwmares oedd wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd efallai gyda delweddau dash-cam i gysylltu gyda'r heddlu.
"Os oes gennych chi wybodaeth, cysylltwch gyda'r heddlu dros y we neu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod z141758."