Newyddion S4C

Cynllun fisas dros dro i weithwyr tramor 'ddim yn ddigon'

Sky News 26/09/2021
S4C

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi mesuru i gynyddu nifer y gyrwyr lorïau HGV er mwyn mynd i’r afael â phrinder nwyddau mewn archfarchnadoedd a thanwydd mewn gorsafoedd petrol.

Yn ôl Sky News, mae arweinwyr busnes wedi dweud na fydd y cynllun fisa "yn ddigon".

Bydd y mesurau newydd yn caniatáu 5,000 o yrwyr tancer tanwydd a lorïau bwyd i gael gweithio yn DU o dramor am dri mis tan 24 Rhagfyr.

Bydd hefyd hyd at 4,000 o bobl yn y DU yn cael eu hyfforddi fel gyrwyr HGV newydd, gan gynnwys 3,000 drwy “bootcamp” sgiliau am ddim, a 1,000 trwy gyrsiau lleol. Bydd archwilwyr profion gyrru a ddefnyddir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael eu cyflogi i gynyddu capasiti profi dros y tri mis nesaf. 

Dywedodd Andrew Opie, cyfarwyddwr bwyd a chynaliadwyedd Consortiwm Manwerthu Prydain, na fydd y mesurau "yn gwneud llawer i leddfu'r diffyg presennol.”

"Mae archfarchnadoedd yn unig wedi amcangyfrif bod angen o leiaf 15,000 o yrwyr lorïau HGV arnyn nhw er mwyn i'w busnesau allu gweithredu yn llawn cyn y Nadolig ac osgoi aflonyddu neu faterion argaeledd.”

Yn ôl yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps, mae'r llywodraeth yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu'r diwydiannau cludo a bwyd ddelio gyda’r prinder gyrwr HGV. 

"Mae'r pecyn hwn o fesurau yn adeiladu ar y gwaith pwysig rydym eisoes wedi'i wneud i leddfu'r argyfwng byd-eang hwn yn y DU.

"Rydyn ni'n gweithredu nawr ond mae'n rhaid i'r diwydiannau hefyd chwarae eu rhan gydag amodau gwaith yn parhau i wella ac mae'r codiadau cyflog haeddiannol yn parhau i gael eu cynnal er mwyn i gwmnïau gadw gyrwyr newydd.”

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.