Newyddion S4C

Y bocsiwr Anthony Joshua'n colli ei deitlau pwysau trwm

Mirror 26/09/2021
S4C

Colli oedd hanes y bocsiwr Anthony Joshua yn ei ornest yn erbyn Oleksandr Usuk o'r Iwcrain yn Llundain nos Sadwrn.

Er mai Joshua oedd y ceffyl blaen ar ddechrau'r ornest, mae'r canlyniad yn golygu ei fod wedi colli'r tri teitl pwysau trwm oedd ganddo, ac hynny am yr eildro mewn pedair gornest.

Dyfarnodd y dyfarnwyr ganlyniad o 117-112, 116-112 ac 115-113 i Usuk ar ddiwedd y 12 rownd o flaen torf o 70,000 yn Stadiwm Tottenham Hotspur.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Jumeirah/CC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.