Port Talbot: Pwerau ychwanegol i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae plismyn ym Mhort Talbot wedi cael rhagor o bwerau i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref.
Ers 18:30 nos Sul a than 18.30 nos Fawrth 30 Rhagfyr, mae gorchmyn yn ei le yn caniatáu i'r heddlu anfon bobl o'r ardal os yn achosi trafferth.
Er bod yr heddlu yn goruchwylio'r dref gyfan, mae cyfeiriad penodol at Stryd Green Park yn y gorchymyn.
Yn ôl yr heddlu, mae'r mesur wedi ei gyflwyno oherwydd cynnydd yn ddiweddar mewn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mhort Talbot.
Dywedodd yr Arolygydd Jared Easton: “Bydd gennym fwy o blismyn yn yr ardal, ac ni fyddan nhw'n oedi cyn defnyddio'r pwerau ychwanegol er mwyn cadw'r gymuned yn ddiogel."
Ychwanegodd y llu nad yw Heddlu De Cymru yn goddef unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.