Arestio dyn ar ôl digwyddiad yn ymwneud â bwa croes
Mae dyn wedi ei arestio ar ôl digwyddiad yn ymwneud â bwa croes ym Mhen-y-bont ar Ogwr, meddai'r heddlu.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw tua 16.10 brynhawn dydd Sadwrn, ar ôl adroddiad bod dyn â bwa croes wedi bygwth person arall yn ardal yn Y Felin Wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae dyn 52 oed o'r Felin-wyllt wedi cael ei arestio ar amheuaeth o feddu ar arf ymosodol mewn man preifat.
Mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Tony Williams: “Rydym yn deall y gall adroddiadau sy’n ymwneud ag arfau beri pryder i bobl sy’n byw yn yr ardal. Roedd swyddogion wedi ymateb yn gyflym i’r digwyddiad hwn, ac mae dyn dan amheuaeth yn parhau yn y ddalfa wrth i ymholiadau barhau.
“Rydym yn gofyn i unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd, neu sydd â gwybodaeth a allai helpu ein hymchwiliad, gysylltu â ni.”