Dros 100 mewn cyfarfod i wrthwynebu cynllun canolfan ddata ger y Fenai
Mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu cynlluniau ar gyfer canolfan ddata fawr ger y Fenai wedi dweud eu bod nhw'n credu y gallen nhw atal y datblygiad.
Daeth dros 100 o bobl i'r cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel Seilo, Caernarfon ddydd Sadwrn, yn ôl y trefnwyr. Roedd cyfarfod arall yn Nwyran, ar Ynys Môn.
Cafodd y cyfarfod ei gynnal er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth i bobl leol am y cynlluniau a thrafod y gwrthwynebiad iddyn nhw.
Wythnos ddiwethaf fe wnaeth Newyddion S4C gyhoeddi'r lluniau cyntaf o ddyluniad Canolfan Ddata Menai, sydd wedi ei gyflwyno gan gwmni Gwelyfenai Ltd.
Ers hynny, mae dros 10,000 o bobl wedi wedi llofnodi deiseb yn erbyn cynllun.
Mae ymgyrchwyr wedi codi pryderon am effaith amgylcheddol y datblygiad ar y Fenai, defnydd y ganolfan o ddŵr a thrydan, a'r effaith ar fywyd gwyllt ac ecosystemau lleol petai'r cynllun yn derbyn caniatâd cynllunio.
Mae'r datblygwyr wedi ymateb i bryderon am y datblygiad gan ddweud na fydd "yn tynnu dŵr o’r Fenai" ac mai'r "unig ddŵr a fydd yn cael ei ollwng i’r Fenai fydd dŵr glaw heb ei halogi".
Dywedodd Emyr Prys Davies, un o’r ymgyrchwyr, wrth Newyddion S4C ei fod wedi ei galonogi gan nifer y bobl ddaeth i'r cyfarfod yng Nghaernarfon.
“Roedden ni wedi llenwi Capel Seilo. Roedden ni’n rili hapus,” meddai.
Dywedodd mai un o brif nodau’r cyfarfod oedd sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol o’r cynlluniau.
“Mae’r public angen gwybod am hyn.” meddai.
‘Da ni angen jobs’
Yn ystod y cyfarfod, cafodd cyflwyniad ei roi yn amlinellu pryderon yr ymgyrchwyr a’r rhesymau dros eu gwrthwynebiad.
Dywedodd Mr Davies fod y grŵp yn cydnabod yr angen am swyddi yn yr ardal.
“Da ni angen jobs,” meddai.
Ond dywedodd fod yr ymgyrchwyr am weld unrhyw ddatblygiad ar y safle yn cynnig budd clir i bobl leol.
“Da ni eisiau beth bynnag sy’n dod yna i fod yn respectful o’r ardal, o’r bobl, a bod o’n mynd i ddod â jobs go iawn i’r ardal,” meddai.
Dywedodd hefyd nad oedd y grŵp yn erbyn gweld defnydd newydd o’r safle yn y dyfodol.
“Tasa modd cael grant o ryw fath i drawsnewid y site ’na yn le, parc gwledig, amazing i deuluoedd efallai gael treulio amser yna,” meddai.
Manylion y datblygiad
Fe fyddai'r safle ar ffurf campws yn cynnwys pump o adeiladau mawr petai'r cynllun yn derbyn caniatâd cynllunio gan Gyngor Gwynedd.
Byddai'r holl safle yn mesur 41 hectar - sydd yr un faint a 57 o gaeau pêl-droed - ac fe fyddai'r adeilad uchaf yno dros 30 metr o uchder, tri metr yn uwch na Thŵr Marcwis dros y Fenai ar Ynys Môn.
Byddai angen tua 700,000 litr o ddŵr y dydd ar y ganolfan, yn ôl Gwelyfenai Ltd.
Dywed y datblygwyr fod y cynllun yn cynnig cyfle i greu swyddi da yn lleol, a bod unrhyw bryderon amgylcheddol wedi eu hateb mewn Asesiad Effaith Amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu i Gyngor Gwynedd ddydd Gwener diwethaf.
‘Mi allwn ni ennill hwn’
Mae’r ymgyrchwyr bellach yn canolbwyntio ar gynyddu cefnogaeth i’r gwrthwynebiad dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Mr Davies fod y cyfarfod wedi rhoi hwb sylweddol i’r ymgyrch.
“Mae’r tair wythnos nesaf yn amser i ni grwpio a dod â gymaint o bobl â phosib i mewn,” meddai.
Mae’r grŵp hefyd yn ystyried y camau nesaf er mwyn cadw’r ymgyrch yn y sylw.
“Mi allwn ni ennill hwn,” meddai Mr Davies.
Dywedodd fod y gefnogaeth a welwyd yn y cyfarfod wedi dangos iddo faint o bryder oedd yn lleol, ond hefyd gryfder y gymuned.
“Mae’n dangos cryfder cymunedol,” meddai.
Ymateb
Wrth ymateb i'r gwrthwynebiad i'r datblygiad, dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Ddata Menai wrth Newyddion S4C ddydd Gwener eu bod yn "cydnabod y diddordeb mawr yn y cynigion hyn ac mae’n iawn bod pobl leol yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau a mynegi eu barn".
“Rydym am sicrhau bod y drafodaeth honno’n seiliedig ar wybodaeth gywir am y datblygiad ac am y mesurau sy’n cael eu cynnig i leihau ei effaith," medden nhw.
“Mae nifer o’r pryderon sy’n cael eu codi eisoes wedi cael sylw drwy’r Datganiad Amgylcheddol a’n gwaith ymgysylltu parhaus. Ni fydd y datblygiad yn tynnu dŵr o’r Fenai.
“Yr unig ddŵr a fydd yn cael ei ollwng i’r Fenai fydd dŵr glaw heb ei halogi a gesglir drwy system ddraenio tir y safle.
“Y gofyniad dŵr dyddiol mwyaf tebygol yw tua 700,000 litr, sydd tua’r un faint â gwesty mawr. Bydd wyth hectar o’r safle yn cael eu neilltuo ar gyfer gwella ecolegol, tra bydd mesurau dylunio manwl a thirlunio yn ceisio lleihau effaith weledol yr hyn rydym yn cydnabod sy’n ddatblygiad sylweddol.
“Byddai’r cynigion hefyd yn sicrhau dyfodol hyfyw i hen safle diwydiannol segur sydd wedi parhau’n halogedig ac wedi’i ddefnyddio’n gyfyngedig ers blynyddoedd lawer.
“Byddent yn ariannu’r gwaith adfer llawn, gan greu mwy na 900 o swyddi i drigolion Cymru ym mhob blwyddyn o’r cyfnod adeiladu ac o leiaf 200 o swyddi hirdymor unwaith y bydd y ganolfan yn weithredol."
Wrth ymateb i ymholiad gan Newyddion S4C ynglŷn a'i safbwynt ar ganolfannau data, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn credu mewn dull cynaliadwy a chytbwys i ddatblygu canolfannau data. Rydym yn cydnabod bod canolfannau data yn ddwys o ran ynni.
"Wrth i’r galw am seilwaith digidol dyfu, mae’n bwysig bod datblygiadau newydd yn defnyddio technolegau a dulliau sy’n lleihau’r defnydd o ynni ac adnoddau.
“Mae unrhyw ddatblygiad canolfan ddata arfaethedig yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r system gynllunio bresennol a’r rheoliadau amgylcheddol, gyda gwiriadau a chydbwyseddau cadarn ar waith i sicrhau bod effeithiau amgylcheddol a chymunedol yn cael eu hystyried yn briodol cyn rhoi caniatâd."
Ychwanegodd y llefarydd: “Mae Cymru’n cael ei chydnabod fwyfwy fel lleoliad strategol ar gyfer y seilwaith sydd ei angen i gefnogi’r economi ddigidol.
"Mae gan fuddsoddiadau mewn canolfannau data y potensial i greu cyfleoedd economaidd newydd a chefnogi cyflogaeth fedrus.
"Ond mae Llywodraeth Cymru yn credu bod rhaid i fusnesau, cymunedau ac economi ehangach Cymru deimlo manteision unrhyw fuddsoddiad.”