Neil Kinnock yn galw ar Andy Burnham i wneud pleidleisio’n orfodol
Mae cyn-arweinydd Llafur, yr Arglwydd Neil Kinnock, wedi galw ar Andy Burnham i gyflwyno pleidleisio gorfodol er mwyn atal canlyniadau etholiadau rhag cael eu “hystumio”.
Mae nifer o aelodau blaenllaw o Dŷ’r Arglwyddi hefyd yn cefnogi cynnig i wneud pleidleisio’n ddyletswydd ddinesig.
Mae disgwyl i’r Arglwydd Kinnock a’r cyn-ysgrifennydd cartref, yr Arglwydd David Blunkett, sydd ill dau wedi bod yn fentoriaid i’r Prif Weinidog, gefnogi’r newid arfaethedig i’r gyfraith yn y Senedd.
Dywedodd yr Arglwydd Kinnock fod y newid yn “gynyddol gyfiawn ac angenrheidiol” er mwyn cryfhau democratiaeth yn y DU, gan rybuddio y gall gostyngiad yn nifer y bobl sy’n pleidleisio arwain at lai o atebolrwydd a mwy o ddiffyg diddordeb.
Cyfeiriodd at systemau gorfodol yng Ngwlad Belg ac Awstralia, gan ddweud eu bod wedi atgyfnerthu ei gred y byddai “democratiaeth a dinasyddiaeth yn y DU yn elwa’n fawr o system debyg o rwymedigaeth gyfreithiol”.
“Roeddwn i’n byw am 10 mlynedd yng Ngwlad Belg ac fe welais bleidleisio gorfodol ar waith. Mae’r niferoedd uchel sy’n pleidleisio a lefel yr ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd yn gymorth mawr i ddemocratiaeth mewn gwlad sydd â threfniadau ethnig a gwleidyddol cymhleth,” meddai mewn datganiad.
“Pan mae’r nifer sy’n pleidleisio wedi gostwng am amryw o resymau negyddol, mae canlyniadau etholiadau o ganlyniad yn cael eu hystumio, gall atebolrwydd leihau ac mae peidio ag ymgysylltu â dyletswyddau cymunedol yn troi’n arfer.
“Mae gorfodi pobl i ddefnyddio eu pleidlais, neu hyd yn oed i fynd i’r orsaf bleidleisio ac ymatal, bellach yn gynyddol gyfiawn ac angenrheidiol.”
Pleidleisio Gorfodol
Roedd tua 91% o bobl wedi pleidleisio yn etholiad ffederal Awstralia yn 2025, o’i gymharu â 60% yn etholiad cyffredinol y DU yn 2024, y gyfradd isaf ers 2001.
Dywedodd y Farwnes Jan Royall yr wythnos hon y byddai’n cyflwyno gwelliant ar bleidleisio gorfodol i Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.
Mae disgwyl i’r cynnig gynnwys dirwy o £10 i bobl sy’n methu â bwrw pleidlais.
Byddai’r rheol yn berthnasol i bob dinesydd cymwys, gydag eithriadau penodol i bobl a allai gael trafferth cymryd rhan, gan gynnwys rhai ag anabledd neu salwch, neu bobl sydd y tu allan i’r DU.
Cafodd gwelliant tebyg ei gyflwyno’n flaenorol gan AS Llafur Antonia Bance yn Nhŷ’r Cyffredin, lle cafodd gefnogaeth 10 AS.
Cafodd gwelliant tebyg gan AS Llafur Bell Ribeiro-Addy gefnogaeth 18 AS.
Dywedodd y cyn-weinidog, yr Arglwydd George Foulkes, y byddai ef, yr Arglwydd Kinnock a’r Arglwydd Blunkett yn cefnogi’r newid.
Yr Arglwydd Blunkett a gyflogodd Mr Burnham fel cynorthwyydd yn 2004, ac mae wedi bod yn un o’i ddylanwadau gwleidyddol mawr ers hynny.
Pan oedd ar fainc flaen Llafur yn 2012, dywedodd Mr Burnham na fyddai’n “diystyru” pleidleisio gorfodol gan fod y nifer oedd yn pleidleisio “yn mynd yn rhy isel i’w anwybyddu”.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Arglwyddi yn gynharach y mis hwn, dywedodd y gweinidog, y Farwnes Taylor, mai blaenoriaeth uniongyrchol y Llywodraeth oedd cael gwared ar rwystrau rhag cymryd rhan, gan gynnwys drwy gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig.
Wrth gyfeirio at Awstralia, dywedodd fod y cynnydd yn nifer y bobl oedd yn pleidleisio yn dilyn cyflwyno system orfodol yn 1924 wedi cynnwys “nifer o gamau, gan gynnwys y camau cofrestru rydym ni’n edrych arnyn nhw nawr”.
“Mae’n broses gam wrth gam ac mae angen i ni symud ymlaen â hi’n ofalus. Mae gwahanol wledydd yn gwneud dewisiadau gwahanol ynglŷn â sut i symud hyn ymlaen,” meddai.
Yn ogystal â’r ymdrechion yn y Senedd, mae academyddion o’r Unol Daleithiau, Awstralia, De America, y DU ac Ewrop yn bwriadu anfon llythyr at Rif 10 yn galw ar y Prif Weinidog i weithredu.
Mae’r llythyr yn dweud: “Mae anghydraddoldebau yn y niferoedd sy’n pleidleisio yn golygu nad yw’r rhai sy’n pleidleisio yn adlewyrchu’r boblogaeth ehangach, ond eu bod yn gyfoethocach, yn hŷn, yn fwy tebygol o fod yn wyn ac yn fwy diogel yn economaidd na’r cyhoedd yn y DU yn gyffredinol.
“Mae hyn wedi ystumio gwleidyddiaeth Prydain, ac mae perygl y bydd yn arwain at argyfwng o ran dilysrwydd democrataidd.”
Mae beirniaid wedi dadlau yn y gorffennol na fyddai cynnydd yn nifer y bobl sy’n pleidleisio o dan system orfodol o reidrwydd yn golygu bod pleidleiswyr yn fwy gwybodus neu’n ymgysylltu mwy â gwleidyddiaeth.
Maen nhw hefyd wedi dadlau y dylai pobl fod yn rhydd i beidio â chymryd rhan mewn etholiadau os ydyn nhw’n dewis peidio.
Ond dywedodd Charles White o ymgyrch Campaign for Compulsory Voting fod y gyfraith arfaethedig, a fyddai’n caniatáu i bobl gofnodi eu bod yn ymatal drwy ddychwelyd papur pleidleisio gwag neu wedi’i ddifetha, yn “ddiwygiad synnwyr cyffredin”.
“Pan mae difaterwch y cyhoedd yn bygwth iechyd ein democratiaeth, dydy aros i’r nifer sy’n pleidleisio wella ar ei ben ei hun ddim yn opsiwn bellach,” meddai.
“Heddiw, mae ysgolheigion blaenllaw a ffigurau mawr o fewn y mudiad Llafur yn uno y tu ôl i un gwirionedd syml: mae pleidleisio gorfodol yn ddiwygiad synnwyr cyffredin sydd ei angen arnon ni.
“Mae’n syml, yn boblogaidd, a dyma’r unig ffordd sicr o wneud cymryd rhan yn ddyletswydd ddinesig i bawb.”
Barn wedi’i rhannu
Mae barn pobl ym Mhrydain wedi’i rhannu ynghylch a ddylai’r DU gyflwyno pleidleisio gorfodol, yn ôl arolwg YouGov a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf.
Roedd 43% yn cefnogi’r syniad a 47% yn ei wrthwynebu mewn arolwg o 4,691 o oedolion, oedd yn gofyn a fydden nhw’n cefnogi system orfodol gyda dirwy i bobl nad oedden nhw’n cymryd rhan.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Mae gwahanol ddemocratiaethau yn gwneud dewisiadau gwahanol ynglŷn â sut maen nhw’n annog pobl i gymryd rhan mewn etholiadau.
“Ein ffocws ni yw cael gwared ar rwystrau rhag cymryd rhan a’i gwneud hi’n haws i etholwyr cymwys gofrestru a phleidleisio.
“Drwy ein Bil Cynrychiolaeth y Bobl, rydym yn cymryd camau i gynyddu cyfranogiad yn ein democratiaeth, gan gynnwys rhoi’r bleidlais i bobl 16 oed a symud tuag at system gofrestru awtomatig fel bod mwy o bobl yn gallu sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.”
Bydd Bil Cynrychiolaeth y Bobl yn cael ei drafod nesaf yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ystod y cyfnod pwyllgor, ar ddyddiad sydd heb ei gyhoeddi eto.