Cyhuddo dyn 66 oed o lofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 68 oed yn Llanelwy ddydd Nadolig

29/12/2025
old palace llanelwy.jpg

Mae dyn 66 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth dyn 68 oed yn Llanelwy, Sir Ddinbych ddydd Nadolig. 

Fe ymddangosodd James Ronald Hughes o Lanelwy yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun, wedi ei gyhuddo o lofruddio Harold David Turner. 

Fe gafodd Mr Hughes ei gadw yn y ddalfa tan 31 Rhagfyr pan bydd gwrandawiad drwy gyswllt fideo yn cael ei gynnal yn Llys y Goron yr Wyddgrug. 

Fe gafodd y gwrandawiad ddydd Llun, a wnaeth bara dau funud, ei gynnal yng nghelloedd y llys yn sgil anallu Mr Hughes i symud.

Dywedodd yr erlynydd James Neary: "Oherwydd natur y cyhuddiad, mae yna gais iddo barhau yn y ddalfa. Does yna ddim hawl am fechnïaeth."

Ychwanegodd cyfreithiwr yr amddiffyniad David Jones: "Dwi wedi egluro nad oes hawl i fechnïaeth yn yr amgylchiadau yma."

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i adeilad ar Stryd Fawr Llanelwy ychydig wedi 12:00 yn dilyn adroddiadau am aflonyddwch. 

Fe gafodd Harold David Turner ei gludo i'r ysbyty ond bu farw'n ddiweddarach ddydd Nadolig. 

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Eleri Thomas: "Rwy’n apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Fflatiau’r Hen Balas ac a welodd neu a glywodd unrhyw beth cyn 12:00 i gysylltu â’r heddlu.

"Mae ein hymholiadau yn parhau, ac mae presenoldeb yr heddlu yn dal i fod yn yr ardal er mwyn tawelu meddyliau. 

"Hoffwn nodi wrth drigolion fod hwn yn ymddangos yn ddigwyddiad ynysig, ac nid ydym yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad. 

"Gan fod cyhuddiadau bellach wedi eu hawdurdodi yn yr ymchwiliad, hoffwn bwysleisio na ddylid postio unrhyw beth ar-lein a allai fod yn niweidiol i achosion llys yn y dyfodol neu a allai danseilio’r broses cyfiawnder troseddol."

Mae'r mater hefyd wedi cael ei gyfeirio i'r Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). 

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25001050086.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.