Y Fari Lwyd yn dal i ddod â chymunedau at ei gilydd ym Mhontypridd

Y Fari Lwyd yn dal i ddod â chymunedau at ei gilydd ym Mhontypridd

Ar drothwy'r flwyddyn newydd mae hen draddodiad yn ymddangos yng Nghymru bob blwyddyn – ceffyl ysgerbydol y Fari Lwyd, ei llygaid yn boteli gwydr, ac wedi’i gwisgo mewn rhubanau a rhosedau.

Does neb yn hollol siŵr beth yw tarddiad traddodiad y Fari Lwyd, ond mae un grŵp ym Mhontypridd yn credu mai'r nod wreiddiol oedd dod â'r gymuned at ei gilydd - amcan y maen nhw eisiau ei efelychu heddiw.

“Mae’n dod yn fwy poblogaidd bob blwyddyn,” meddai Karin Rainbird, awdur a chaplan paganaidd sy’n byw ym Mhontypridd, wrth Newyddion S4C.

“Fe wnaethon ni ddechrau cynnwys y Fari Lwyd fel rhan o’r grŵp ‘Pontypridd Pagan Moot’ yn 2019, a dyna oedd y tro cyntaf i ni fynd â’r Fari allan o gwmpas Pontypridd.”

Yn ogystal â mynd â’r Fari o ddrws i ddrws, mae creu ac addurno’r creadur yn y mis cyntaf yn rhan o’r gwaith cymunedol.

Mae’r ‘Pontypridd Pagan Moot’ yn rhan o gymuned anffurfiol o bobl sydd â diddordeb mewn Paganiaeth, natur ysbrydol a dewiniaeth.

Ond does neb yn gwybod ai o draddodiad Paganaidd mae’r Fari Lwyd yn dod. Mae gwreiddiau’r traddodiad yn deillio’n bennaf o’r 19eg ganrif, gyda’r cofnod cyntaf yn 1800.

Er bod ambell i Fari Lwyd i’w gweld ym mhob cwr o Gymru erbyn hyn, yn draddodiadol roedd hi’n fwyaf amlwg ym Morgannwg a Gwent.

Mae rhai yn dadlau ei bod yn deillio o fytholeg Geltaidd sy’n cysylltu ceffylau gyda’r is-fyd. Mae ysgolheigion eraill yn gweld cysylltiad gyda stori’r Geni adeg y Nadolig.

Yr hyn sydd gan y traddodiad yn gyffredin ym mhobman oedd yr arfer o wisgo penglog ceffyl am ben un o'r rhai fyddai'n canu o ddrws, wrth i'r criw ofyn am fynediad.

Image
Karin Rainbird yn eistedd tu allan
Karin Rainbird

Un ddamcaniaeth, meddai Karin Rainbird, yw bod twf cymunedau newydd glofaol, oedd yn tynnu pobl at ei gilydd yn y 19eg ganrif, yn rhannol gyfrifol am boblogrwydd y traddodiad bryd hynny.

“Roedden nhw’n gymunedau newydd gyda phobl yn dod at ei gilydd o bob cwr, nad oedd bron yn eu 'nabod ei gilydd – felly fe ddechreuodd traddodiad y Fari Lwyd fel ffordd o adeiladu cymuned," meddai.

“Achos does dim ffordd well o ddod i gydnabod eich cymdogion nag iddyn nhw ddod draw gyda phen ceffyl, dod i mewn i’ch tŷ, cael parti, bwyta eich bwyd i gyd, ac yfed eich cwrw i gyd.

“Fe ostyngodd poblogrwydd y Fari Lwyd ar ddechrau’r 20fed ganrif, ond dim ond cwpwl o ardaloedd yn ne Cymru oedd yn dal i’w wneud – Llantrisant a Llangynwyd yn ardal Maesteg.”

Mae’n gweld cysylltiad rhwng diflaniad y traddodiad â’r gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, gan fod y gystadleuaeth benillion ar drothwy’r tŷ wedi digwydd yn Gymraeg.

“Ond ers tua’r 1970au a’r 1980au mae wedi dechrau dod yn ôl, ac erbyn hyn mae wedi dod yn hynod boblogaidd,” meddai.

“Mae yna gronfa ddata ar-lein lle gall pobl gofrestru eu Mari, a bwystfilod eraill, ac mae tua 100 ohonyn nhw wedi’u cofrestru erbyn hyn – ac nid jyst yng Nghymru. Mae yna rai yn Lloegr, ond hefyd mor bell ag Awstralia ac America.

“Mae wir wedi lledaenu. Mae wedi dal yn sylweddol iawn – felly mae’r traddodiad yn cael ei adfywio mewn ffordd wirioneddol fawr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.