'Mae wedi achub fy mywyd': Pryder am ddyfodol elusen 'unigryw' i'r digartref
Mae pryder am ddyfodol elusen sy'n cynnig cyfleoedd i bobl ddigartref chwarae pêl-droed - gyda rhai wedi cael cyfle i fynychu Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd - oherwydd diffyg cyllid.
Mae un person sydd eisoes wedi elwa o'r cynllun wedi dweud wrth Newyddion S4C na fyddai hi "yma heddiw oni bai am Bêl-droed Stryd Cymru".
Ers 2013 mae'r elusen wedi cynnig sesiynau pêl-droed wythnosol am ddim i gannoedd o bobl sy'n wynebu digartrefedd, sy'n gaeth i gyffuriau ac yn profi heriau eraill mewn bywyd.
Ond mae cyfarwyddwr dros dro Pêl-droed Stryd Cymru, Beth Thomas, yn dweud bod angen codi £15,000 erbyn diwedd Ebrill er mwyn "achub" yr elusen.
Mae Charlotte Barrell, 31 oed, yn un o nifer sydd wedi elwa o sesiynau Pêl-droed Stryd Cymru.
Dywedodd wrth Newyddion S4C bod yr elusen "wedi achub ei bywyd" ac mae hi bellach yn gweithio i'r elusen fel swyddog y wasg.
"Roeddwn i mewn lle tywyll a ddim yn gwybod a fyddai yfory'n dod," meddai.
"Yn aml roeddwn i'n rhoi fy hun mewn sefyllfaoedd peryglus achos roedd hynny'n rhoi rhyw fath o gyffro i mi.
"Pan es i i'r sesiwn gyntaf yng Nghaerdydd roedd saith menyw arall yn yr un sefyllfa â fi.
"Roedd Pêl-droed Stryd Cymru wedi achub fy mywyd. Roeddwn i mewn sefyllfa lle nad oeddwn yn sicr a fyddwn i yma y diwrnod canlynol, ac roedd sylweddoli nad oeddwn ar fy mhen fy hun o gymorth mawr.
"Heb Bêl-droed Stryd Cymru byddwn i ddim yma heddiw."
Mae arolwg gan yr elusen wedi canfod bod 97% o'r rhai sy'n cymryd rhan yn dweud y byddai eu hiechyd meddwl yn waeth pe bai sesiynau yn dod i ben.
'Colli bob dim'
Mae Pêl-droed Stryd Cymru yn cynnig sesiynau pêl-droed yn wythnosol yn ardaloedd y Rhyl, Caerdydd a Hwlffordd, ac yn cynnal cystadlaethau ledled Cymru bob tri mis.
I'r 400 o bobl sy'n cymryd rhan bob wythnos, uchafbwynt y profiad yw cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd i'r Digartref, sy'n cael ei gynnal yn flynyddol.
Hyd yn oed pe bai'r elusen yn cyrraedd ei tharged ariannol, does dim sicrwydd y bydd Cymru yn cystadlu yn y gystadleuaeth ym Mecsico eleni.
Cafodd bywyd Wayne Ellaway ei drawsnewid gyda chymorth Pêl-droed Stryd Cymru. Fe gapteiniodd y tîm yng Nghwpan y Byd yn Amsterdam ac roedd yn hyfforddwr timau'r dynion a'r menywod am sawl blwyddyn.
Byddai gweld eraill yn colli'r cyfle i drawsnewid eu bywydau nhw yn "uffernol o drist", meddai.
"Pan ddechreuais i chwarae roeddwn i wedi colli bob dim - teulu a ffrindiau - doedd gen i ddim byd ond siwmper, pâr o drowsus a thrênyrs," dywedodd.
"Roeddwn i'n gaeth i gyffuriau ac yn cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, ac alla i ddim diolch digon i Bêl-droed Stryd Cymru am helpu i drawsnewid fy mywyd.
"Fe fydd yn hollol ddinistriol i'r rhai sy'n chwarae nawr pe bai'r elusen yn mynd, achos i lawer dyma'r unig beth sydd ganddyn nhw.
"I feddwl bod nhw ddim yn gallu cael yr un profiadau a dwi wedi cael, mae mor drist.
"Mae bywydau pobl yn cael eu trawsnewid gan yr hyn mae Pêl-droed Stryd Cymru yn ei wneud, ac dwi'n brawf o hynny."
Yn ôl y Comisiwn Elusennol, roedd incwm Pêl-droed Stryd Cymru yn £71,905 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yn 2025.
Fodd bynnag, roedd yr elusen wedi gwario £142,028 ar gynnal sesiynau hyfforddi, talu aelodau staff ac anfon timau i Gwpan y Byd Digartref yn yr un cyfnod.
Dywedodd cyfarwyddwr dros dro'r elusen, Beth Thomas, wrth Newyddion S4C eu bod yn dibynnu ar grantiau, sy'n "fwy a mwy anodd" i'w cael erbyn hyn.
"Mae'r trydydd sector ar ei liniau," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae hi wastad yn her i ni yn nhermau cyllid a cheisio bod yn gynaliadwy, ond dim i'r lefel rydym yn ei phrofi ar hyn o bryd.
"Rydym wedi bod yn hollol ddibynnol ar gyllid trwy grantiau ac mae'r tirlun mor gystadleuol heddiw, ac mae llai o arian ar gael hefyd."
Ychwanegodd fod Pêl-droed Stryd Cymru yn "unigryw" a'i fod wedi "trawsnewid" bywydau pobl.
"I gymaint o bobl mae'r sesiynau wedi trawsnewid eu bywydau. Maen nhw wedi cael swyddi a thai.
"Mae'n hollbwysig ac nid oes unrhyw le arall yn cynnig yr hyn rydym ni'n ei gynnig.
"Mae'n rhywle lle nad ydyn nhw'n cael eu barnu, does dim rhagfarn o gwbl, a dyna sy'n bwysig."
