Dros 5,000 o gapeli wedi cau yng Nghymru meddai comisiwn
Dim ond tua 1,500 o’r 6,500 o gapeli Anghydffurfiol sydd wedi eu hadeiladu yng Nghymru sy’n dal ar agor, yn ôl Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Mae’r comisiwn yn cynnal cyfrifiad cenedlaethol newydd o gapeli Anghydffurfiol yng Nghymru fel rhan o brosiect Capeli Cymru: Gwarchod Treftadaeth Anghydffurfiol Cymru.
Bydd Cyfrifiad Capeli Anghydffurfiol Cymru 2026 yn creu’r darlun cywir cyntaf mewn dros 100 mlynedd o gyflwr, defnydd a statws capeli ledled Cymru, medden nhw.
Bydd y cyfrifiad hefyd yn nodi’r capeli sydd wedi cael eu hailbwrpasu, eu haddasu, eu dymchwel neu eu gadael yn wag ac yn segur.
“Wrth i ni wneud ein prosiect ymchwil, rydym wedi bod yn ymwybodol o faint o'r capeli hyn sydd wedi cau,” meddai Susan Fielding o’r Comisiwn Brenhinol wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales.
“Mae o leiaf 5,000 wedi cau eisoes, ac mae nifer mawr ohonynt wedi cael eu dymchwel a'u trosi i adeiladau eraill.
“Yr adeiladau hyn oedd canolfannau eu cymuned, ac er eu bod yn amlwg yn cael eu defnyddio at ddibenion crefyddol yn bennaf, roedden nhw hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer addysg, diwylliant a darparu cyfleoedd cymdeithasol i'r cymunedau.
“Roedden nhw’n amlwg yn bwysig iawn yn hanes a goroesiad yr iaith Gymraeg dros y 300 mlynedd diwethaf.
“Felly nid yw hyn yn ymwneud â hanes crefyddol Cymru yn unig.
“Mae'n ymwneud â’r iaith, addysg, gwleidyddiaeth a bywyd yng Nghymru ym mhob un o'i ffurfiau.”
Y cefndir
Mae’r comisiwn yn holi pobl i roi gwybod am gapeli yn eu hardal nhw, a hefyd yn gofyn i bobl sy’n mynychu capeli ar hyn o bryd roi gwybod am addoliad, gweithgareddau a chyflwr adeiladau.
Cyfrifiad Crefyddol 1851 yw’r unig arolwg ledled y DU i gasglu gwybodaeth ystadegol am leoedd addoli, gan gynnwys dyddiadau sefydlu a nifer y seddi.
Cynhaliwyd arolwg ym 1905 gan y Comisiwn Brenhinol ar Eglwys Loegr a Chyrff Crefyddol Eraill yng Nghymru a Sir Fynwy cyn datgysylltu’r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, a dychwelwyd tystiolaeth bod tri chwarter o bobl yng Nghymru yn Anghydffurfwyr.
Bydd Cyfrifiad Capeli 2026 yn adlewyrchu agweddau ar arolygon 1851 a 1905 drwy lunio:
- rhestr bendant o gapeli gweithredol
- ffigurau aelodaeth a phresenoldeb
- gwybodaeth am batrymau a gwasanaethau addoli
- manylion gweithgareddau cymunedol crefyddol a seciwlar.
Ar gyfer capeli nad ydynt bellach mewn defnydd crefyddol, bydd y cyfrifiad yn casglu gwybodaeth am:
- ail-bwrpasu ac addasu
- defnyddiau cyfredol a’u heffaith ar y ffabrig hanesyddol
- dymchwel
- capeli gwag ac adfeiliedig gyda photensial i’w hailddefnyddio.
Wrth siarad am yr arolwg, dywedodd Susan Fielding o’r Comisiwn Brenhinol bod “cyfrifiadau 1851 a 1905 yn rhoi dau gipolwg amhrisiadwy o orffennol y capel”.
“Bydd ein cyfrifiad yn 2026 yn cynnig trydydd.
“Gyda’i gilydd, maent yn adrodd stori esblygol am ffydd, cymuned a hunaniaeth sy’n hanfodol wrth lywio strategaethau cenedlaethol i amddiffyn adeiladau y cyfeirir atynt yn gyffredin fel ‘Pensaernïaeth Genedlaethol Cymru’.”
Mae modd cymryd rhan yn yr arolwg fan hyn.
Llun: Capel Sardis, Llanfihangel-y-Pennant. (Hawlfraint y Goron: CBHC).
