Heddlu'n ymchwilio wedi i ymosodiad honedig arwain at ohirio gêm bêl-droed
Mae'r heddlu yn ymchwilio i adroddiadau am ymosodiad honedig mewn gêm bêl-droed yn y de ddydd Sadwrn.
Cafodd y gêm rhwng Port Talbot a Bridgend Street yn Uwch Gynghrair De Cymru ei gohirio ar ôl yr hanner cyntaf.
2-2 oedd y sgôr rhwng y clybiau, sy'n eistedd yn y trydydd a'r pedwerydd safle, pan gafodd y gêm ei gohirio.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "ymchwilio i adroddiadau o ymosodiad yn ystod y gêm".
Ychwanegodd y llu nad oedd neb wedi cael ei arestio hyd yma a bod ymholiadau'n parhau.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed De Cymru eu bod nhw hefyd yn cynnal ymchwiliad i'r ymosodiad honedig.
Mewn datganiad ar blatfform X nos Sadwrn, dywedodd Clwb Pêl-droed Port Talbot: "Yn anffodus mae ein gêm yn erbyn Bridgend Street wedi'i gohirio oherwydd ymosodiad 'honedig' ar ein rheolwr a'n chwaraewyr."
Dywedodd Bridgend Street na fyddan nhw'n rhoi sylw ar y mater er mwyn "parchu'r gynghrair a'r dyfarnwr".
Dywedodd Uwch Gynghrair De Cymru bod unrhyw ymholiadau am gamymddwyn yn ystod gemau yn fater i Gymdeithas Bêl-droed De Cymru.
'Dim yn goddef trais'
Mewn datganiad i Newyddion S4C dywedodd Cymdeithas Bêl-droed De Cymru (CBDC) eu bod yn cynnal ymchwiliad ffurfiol i'r ymosodiad honedig.
"Mae CBDC yn ymwybodol o sawl sylwad ar-lein ynglŷn â'r gêm yn Uwch Gynghrair De Cymru rhwng Bridgend Street a Port Talbot ar 18 Ebrill 2026, a gafodd ei gohirio," meddai llefarydd.
"Un o flaenoriaethau mwyaf CBDC yw lles a diogelwch pawb sy’n ymwneud â’r gêm, gan gynnwys chwaraewyr, dyfarnwyr a gwylwyr.
"Dyw CBDC ddim yn goddef unrhyw fath o drais neu anhrefn o unrhyw fath, ac yn pwysleisio eto nad oes lle i ymddygiad o’r fath mewn pêl-droed ar unrhyw lefel.
"Ar hyn o bryd mae’r amgylchiadau o amgylch y gêm hon yn destun ymchwiliad ffurfiol gan CBDC.
"Mae CBDC yn cydweithredu’n llawn â Heddlu De Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, a bydd unrhyw fater sy'n ymwneud a'r digwyddiad yn cael ei drafod drwy’r prosesau disgyblu a rheoleiddio priodol.
"Gan fod y mater hwn yn parhau o dan ymchwiliad gweithredol, ni fydd CBDC yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."
