'Anodd i'w gymryd': Bala yn disgyn o'r Cymru Premier JD ar ôl 17 o flynyddoedd
Mae rheolwr Y Bala wedi disgrifio’r clwb yn disgyn o’r JD Cymru Premier ar ôl 17 o flynyddoedd yn y gynghrair fel rhywbeth “anodd i’w gymryd”.
Fe gollodd y clwb yn erbyn Llansawel nos Sadwrn, gan olygu eu bod nhw’n disgyn i ail haen pêl-droed Cymru.
Roedd cyfnod yn y gêm pan oedd y clwb yn debygol o aros yn y gynghrair, ond sgoriodd Llansawel ddwy gôl hwyr i sicrhau’r fuddugoliaeth a selio ffawd Y Bala.
Yn ystod eu cyfnod yn Uwch Gynghrair Cymru, roedd y Bala wedi ennill sawl Cwpan Cymru a chymhwyso ar gyfer cystadlaethau Ewrop ar naw achlysur.
Roedd y rheini’n cynnwys tripiau i wynebu clybiau yn Estonia, San Marino, Malta a Sweden.
Wrth siarad â rhaglen Sgorio ar ôl y canlyniad siomedig nos Sadwrn, dywedodd rheolwr y clwb, Steve Fisher, ei fod yn “drist iawn” dros y clwb.
“Roeddwn i wir yn credu ein bod ni wedi gwneud digon, ond roeddem wedi gwneud camgymeriadau yn y diwedd,” meddai.
“Mae pawb yn hynod drist, a dwi’n drist iawn dros y clwb.
“Dwi wedi bod yma ers 21 o flynyddoedd ac wedi profi amseroedd da - ennill Cwpan Cymru, ymgyrchoedd yn Ewrop - ond mae eleni wedi bod yn gyfnod caled.”
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/2045581634888483280
Ychwanegodd Fisher ei fod yn “fraint” rheoli’r clwb a’i fod yn bwriadu aros tymor nesaf.
“Mae’n fraint cael rheoli’r clwb yma, ac mae llawer o hanes cyfoethog y clwb wedi digwydd tra mod i yma.
“Byddwn yn gweithio mor galed â phosib i ailadeiladu’r garfan a gobeithio ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru, lle mae’r clwb yn perthyn.”
Yn ail haen y de roedd hi’n ddiwrnod o ddathlu i Rydaman ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw ennill dyrchafiad i’r gynghrair uchaf am y tro cyntaf yn eu hanes.
Roedd eu buddugoliaeth yn erbyn Cwmbrân yn ddigon wrth i Gaerau Trelái fethu ag ennill oddi cartref yn erbyn Pontypridd, gan olygu eu bod yn disgyn allan o’r trydydd safle.
Mae Rhydaman yn ymuno â Threfelin, Cambrian United, Airbus UK, Treffynnon a Llandudno, oedd eisoes wedi sicrhau eu lle yn y JD Cymru Premier ar gyfer tymor nesaf.
Mae sylw bellach yn troi at y gemau ail gyfle, gyda’r enillwyr yn sicrhau lle yn Ewrop ar gyfer tymor nesaf.
Bydd Bae Colwyn yn wynebu Pen-y-bont ar 25 Ebrill tra bydd Hwlffordd yn teithio i’r Barri ar 26 Ebrill, gyda’r enillwyr yn wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol.
