Ynys Môn: Gwasanaethau brys yn ymateb i ddigwyddiad ger Porthaethwy
Fe gafodd ambiwlans awyr ei anfon i ardal Penhesgyn ger Porthaethwy ar Ynys Môn bnawn Sul wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i ddigwyddiad yno.
Roedd ambiwlans a sawl cerbyd yr heddlu a sawl injan tân yn bresennol yn yr ardal, gyda'r ambiwlans awyr yn cyrraedd toc wedi 17.30.
Nid yw'n amlwg eto pam bod y gwasanaethau brys wedi eu galw ond mewn datganiad dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod swyddogion wedi darparu "gofal critigol" ar y safle.
"Tua 17:20 fe gafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i ddigwyddiad yn ardal Porthaethwy, Ynys Môn," medden nhw.
"Roeddem wedi anfon ambiwlans brys i'r safle, lle cafodd y criw eu cefnogi gan Uned Ymateb Acíwtedd Brys Cymru a rheolwr gweithrediadau."
Ychwanegodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod nhw hefyd wedi darparu "cefnogaeth gofal critigol uwch" ar y safle.