Caerdydd yn ennill Cwpan Cymru am y bumed flwyddyn yn olynol
Mae Caerdydd wedi ennill Cwpan Cymru am y bumed flwyddyn yn olynol ar ôl trechu Abertawe ar giciau o'r smotyn.
Roedd yr Adar Gleision ar ei hôl hi’n 3-0 cyn sgorio tair gôl yn y 25 munud olaf i unioni'r sgôr.
Enillodd Caerdydd 5-4 ar giciau o'r smotyn.
Dechreuodd Abertawe yn gryf ac fe ddaeth y gôl agoriadol wedi 12 munud.
Fe gafodd croesiad Chloe Chivers ei phenio yn ôl ati, ond roedd ei chroesiad yn ôl i mewn i’r cwrt 18 wedi twyllo pawb a hedfan dros ben y golwr.
Roedd dihangfa i’r Elyrch saith munud yn ddiweddarach wrth i’r golwr Amelia Forkings fethu â chadw gafael ar ergyd Mackenzie Olden, ond fe darodd y postyn yn lle gwyro i gefn y rhwyd.
Nid oedd yr un tîm yn gallu creu unrhyw gyfleoedd yn ystod gweddill yr hanner cyntaf, gyda’r ddau amddiffyn yn rhwystro unrhyw ymosodiadau.
Ond wedi munud yn unig yn yr ail hanner fe wnaeth yr Elyrch ddyblu eu mantais.
Roedd croesiad Maisie Miller wedi dod o hyd i Chivers wrth y postyn pellaf, ac roedd ei phas ar draws y cwrt chwech i Aimee Deacon yn berffaith wrth iddi ganfod cefn y rhwyd.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Adar Gleision wrth i’r Elyrch ennill y bêl yn ôl yn syth yng nghanol y cae wedi’r gôl.
Chivers oedd yn allweddol eto wrth iddi garlamu i hanner Caerdydd cyn pasio i Maisie Miller, a honno wedi taro i gornel isaf y rhwyd i wneud hi’n 3-0.
Daeth llygedyn o obaith i Gaerdydd gyda 25 munud yn weddill.
Roedd pas Lilly Billingham dros bennau amddiffyn Abertawe wedi canfod Fiona Barry, ac roedd hi wedi codi’r bêl yn daclus dros y golwr i gefn y rhwyd.
Pum munud yn ddiweddarach fe ddaeth ail gôl i'r Adar Gleision wrth i Shannon Evans benio’r bêl i gefn y rhwyd o groesiad Olden.
Cafodd Caerdydd eu gwobrwyo am eu gwaith caled gyda 10 munud yn weddill wrth iddyn nhw unioni’r sgôr.
Roedd ergyd Fiona Barry wedi gwyro oddi ar ben capten yr Elyrch, Jessica Williams, a dros y golwr.
3-3 felly ar ddiwedd y 90 munud, a chiciau o’r smotyn i benderfynu enillwyr Cwpan Cymru.
Ar ôl bod ar eu hol hi o 3-0 yn ystod y 90 munud, Caerdydd enillodd 5-4 ar giciau o'r smotyn i ennill y gwpan am y pumed flwyddyn yn olynol.