Cip olwg ar benawdau'r bore

13/09/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dĂŽm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar rai o brif straeon y gwasanaeth ar fore Llun, 13 Medi, o Gymru a thu hwnt.

Covid-19: Esgeulustod 'parhaus' wedi arwain at farwolaethau medd undeb - WalesOnline

Roedd esgeulustod "parhaus" a diffyg paratoi gan Lywodraeth y DU wedi cyfrannu at y nifer "dirdynnol" o farwolaethau yn ystod y pandemig, yn Ă´l undeb feddygol.  Mae'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA), sy'n cynrychioli meddygon ar draws y DU, wedi dweud nad oes modd i'r GIG ddychwelyd i'r lefelau o "ddiffyg staff" a "diffyg adnoddau" maen nhw'n dweud oedd yn wynebu staff meddygol cyn i'r feirws ddechrau ymledu.

Covid-19: Boris Johnson i ddatgelu cynlluniau’r gaeaf ond ‘dim cyfnod clo’ - Sky News

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gyhoeddi cynlluniau Covid-19 ar gyfer yr hydref a’r gaeaf yr wythnos hon, gyda phwyslais ar frechu yn hytrach na chyfnodau clo.  Yn Ă´l adroddiadau, mae’r Prif Weinidog Boris Johnson yn “benderfynol” o osgoi cyfnod clo arall yn Lloegr.

Gogledd Corea yn 'tanio taflegryn pellter-hir newydd' - Al Jazeera

Mae Gogledd Corea wedi dweud eu bod wedi cwblhau cyfres o ‘brofion llwyddiannus’ gyda thaflegryn Cruise newydd.  Dywed adroddiadau bod yr arf newydd a brofwyd dros y penwythnos yn gallu cyrraedd targedau sydd 1,500km (930 milltir) i ffwrdd.

Disgwyl i Nicola Sturgeon alw am ail-refferendwm annibyniaeth - The Scotsman

Mae disgwyl i Nicola Sturgeon alw am ail-refferendwm ar annibynniaeth i’r Alban yng nghynhadledd yr SNP ddydd Llun.  Bydd y prif weinidog yn ceisio darbwyllo San Steffan mai "democratiaeth sy’n bwysig".

Cynllun i roi bywyd newydd i un o hen gapeli’r gorllewin

Bydd un o gapeli’r gorllewin yn cael ei thrawsnewid er mwyn ceisio ehangu ei hapĂŞl.  Mae Capel Bethlehem yn SanclĂŞr yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei nodi fel adeilad rhestredig Gradd II.  Ond, ar Ă´l derbyn nawdd dros gyfnod o bum mlynedd gan Gynllun Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr, y gobaith yw cyflogi swyddog cymunedol a buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf.

Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.